Fe fydd modd i gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru deithio i Baku, prifddinas Azerbaijan, ar gyfer gemau’r Ewros yn yr haf, yn ôl y Guardian.

Maen nhw’n adrodd y bydd yn amodol ar gael prawf Covid-19 negyddol, ond fod amheuaeth o hyd am fynd i Rufain.

Bydd Cymru’n herio Twrci a’r Swistir yn Baku, a’r Eidal ar eu tomen eu hunain yn Rhufain.

Mae Uefa yn dweud bod gan dair dinas arall – Dulyn, Munich a Bilbao – tan Ebrill 19 i gadarnhau y byddan nhw’n caniatáu torfeydd, neu fe allen nhw wynebu colli’r hawl i gynnal y gemau.

Bydd holl ddinasoedd eraill y gystadleuaeth yn croesawu cefnogwyr, ond Budapest yw’r unig ddinas hyd yn hyn i ymrwymo i stadiymau llawn, tra bod Baku a St Petersburg yn hanner llawn, gyda’r gweddill rhwng 25-33% yn llawn.

Bydd Uefa yn rhoi’r hawl i wledydd benderfynu erbyn diwedd Ebrill a fydd modd iddyn nhw gynyddu maint y torfeydd yn nes at y gystadleuaeth yn ddibynnol ar y rhaglen frechu a chyfraddau’r feirws yn yr haf.

Serch hynny, mae Uefa yn rhybuddio pobol y bydd teithio’n “heriol o ganlyniad i’r cyfyngiadau sy’n newid o hyd”, gan gynnwys gorfod mynd i gwarantîn mewn rhai gwledydd.

Mae disgwyl i deithiau awyr rhwng Caerdydd a Baku gymryd hyd at 15 awr, ac y bydd rhaid mynd ar dair awyren er mwyn cyrraedd yno.

Os yw pobol yn penderfynu peidio teithio, bydd modd cael ad-daliad llawn trwy wneud cais erbyn Ebrill 22 ac os bydd mwy o alw am docynnau na nifer y seddi sydd ar gael, fe fydd enwau’n cael eu tynnu o’r het.