Fe fydd yn rhaid i Forgannwg weithio’n galed ar y trydydd diwrnod yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley ar ôl bod mewn sefyllfa gref ar yr ail ddiwrnod cyn i’r batwyr cydnabyddedig eu rhoi nhw dan bwysau yn yr ail fatiad.

Ar ôl dechrau ar 310 am wyth, roedden nhw i gyd allan yn eu batiad cyntaf am 330 gyda Timm van der Gugten yn sgorio 85 heb fod allan, ei sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed.

Ond ar ôl bowlio’r tîm cartref allan am 193 i sicrhau blaenoriaeth batiad cyntaf o 137, roedden nhw mewn dyfroedd dyfnion ar 29 am bedair cyn i’r capten Chris Cooke a Billy Root ddod ynghyd.

Erbyn diwedd y dydd, roedden nhw’n 68 am bedair – ar y blaen o 205 yn eu hail fatiad ond oni bai am y wicedi cynnar, fe allen nhw fod mewn sefyllfa lawer cryfach, gyda Ben Coad yn cipio tair wiced am 18 mewn saith pelawd.

Y bore

Tarodd Michael Hogan dair ergyd i’r ffin cyn iddo gael ei ddal ar y ffin gan y capten Steve Patterson yn taro ergyd fawr i’r ochr agored oddi ar fowlio Ben Coad am 52.

Roedd e dri rhediad yn brin o’i sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed, ac mae’n bosib na fyddai ei bartner Timm van der Gugten wedi bod yn hapus iawn, ac yntau ar 83 ac yn mynd am ei ganred cyntaf erioed ag un wiced o’r batiad yn weddill.

Roedd yr Iseldirwr heb fod allan ar 85 pan ddaeth y batiad i ben ar 330, wrth i Patterson daro coes Jamie McIlroy o flaen y wiced, a’r batiwr yn ei gêm gyntaf i’r sir.

Yn dilyn cyfraniad arwrol gyda’r bat, cipiodd Hogan wiced gynta’r tymor pan gafodd Tom Kohler-Cadmore ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke am 11 yn y bumed pelawd, ac fe gipiodd e wiced arall yn fuan wedyn wrth fowlio Tom Loten wrth iddo fe chwarae ergyd amddiffynnol.

Er i Adam Lyth a Joe Root, dau chwaraewr rhyngwladol, aros yn gadarn wrth ailadeiladu’r batiad yn yr un modd ag y bu’n rhaid i Forgannwg ei wneud, collodd y ddau eu wicedi’n fuan ar ôl cinio.

Cafodd Root ei ddal wrth ergydio’n syth i’r awyr oddi ar fowlio’r troellwr Callum Taylor, tra bod Lyth wedi symud ar draws ei wiced a chael ei daro ar ei goes gan Dan Douthwaite, a Swydd Efrog erbyn hynny’n 79 am bedair.

Cwympodd y bumed wiced ar 129 ar ôl i Jonny Tattersall gael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan van der Gugten, gan ddod â phartneriaeth o 50 â Harry Brook mewn 12.1 o belawdau i ben â’r sgôr yn 129 am bump.

Cipiodd David Lloyd ddwy wiced – Harry Brook, â’i goes o flaen y wiced, a Patterson, wedi’i ddal yn y slip gan Nick Selman – y naill ochr i wiced gyntaf Jamie McIlroy i Forgannwg, wrth i Matthew Fisher gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke, a’r tîm cartre’n 167 am wyth.

Daliad acrobataidd gan Callum Taylor yn safle’r trydydd dyn oedd yn gyfrifol am waredu Coad, a hynny oddi ar fowlio Douthwaite, cyn i’r batiad ddod i ben pan gipiodd Taylor wiced Duanne Olivier, wedi’i ddal gan Cooke a Swydd Efrog i gyd allan am 193 erbyn amser te.

Ail fatiad

Blaenoriaeth o 137 oedd gan Forgannwg, felly, wrth iddyn nhw ddechrau eu hail fatiad ar ddechrau’r sesiwn olaf.

Ond collon nhw eu wiced gyntaf ym mhelawd gynta’r batiad, wrth i Nick Selman gael ei ddal gan y wicedwr Tattersall oddi ar fowlio Coad heb sgorio a chwympodd yr ail yn fuan wedyn pan gafodd Andy Balbirnie ei ddal yn y slip gan Brook oddi ar fowlio Olivier.

Am yr ail waith yn yr ornest, roedden nhw’n 29 am dair pan gafodd David Lloyd ei ddal yn y slip gan Brook oddi ar fowlio Coad, ac yn 29 am bedair wrth i Kiran Carlson gael ei ddal gan Tattersall oddi ar yr un bowliwr.

Batiodd Root a Cooke yn gadarn yn niwedd y prynhawn, ond bydd rhagor o waith ganddyn nhw i’w wneud ar y trydydd diwrnod i sicrhau bod ganddyn nhw lygedyn o obaith o osod nod fydd yn gystadleuol.

Ymateb

“Ro’n i’n arfer bod yn fatiwr ers talwm felly dw i bob amser wrth fy modd yn treulio amser yn y canol,” meddai Timm van der Gugten.

“Wnes i fwynhau batio gyda Dan (Douthwaite) neithiwr.

“Ac mae cyffro bob amser wrth fatio gyda Hoges (Michael Hogan).

“Dw i ddim wir yn meddwl am gerrig milltir personol, mae’r tîm yn bwysicach.

“Nod y tîm yw cael rhediadau mawr yn y batiad cyntaf, felly roedd hi’n braf cael dros 300 a chael blaenoriaeth.

“Wnaeth pawb fowlio’n dda ar adegau gwahanol.

“Roedd yn ymdrech gilyddol, ac fe fydden ni wedi neidio ar y cyfle i gael blaenoriaeth ar drothwy’r trydydd diwrnod.”

 

Adroddiad o’r diwrnod cyntaf