Bydd rheolwr newydd merched Cymru Gemma Grainger wrth y llyw am y tro cyntaf heno (nos Wener, Ebrill 9) wrth i Gymru herio Canada, sy’n 10fed yn y byd.
Mae’r gic gyntaf am 6 o’r gloch, a bydd modd gwylio ar wefan BBC Sport, BBC iPlayer a gwefan Cymru Fyw.
Mae’r gêm yn sialens fawr i Gymru, sy’n 31ain yn y byd, ac erioed wedi cymhwyso ar gyfer twrnament rhyngwladol.
Cafodd Gemma Grainger, sy’n 38 oed, ei phenodi fis diwethaf ar ôl i Jayne Ludlow adael y swydd, ac mae yno arwyddion da wrth i’r chwaraewyr ganu clodydd eu rheolwr newydd.
Cyffrous
Mae hi wedi rheoli mewn mwy na 90 o gemau rhyngwladol ac roedd yn rhan o staff hyfforddi Lloegr ar gyfer Ewro 2017, lle cyrhaeddon nhw’r rownd gyn-derfynol.
“Does gen i ddim amheuaeth y bydd Gemma yn cael y gorau o bob person yn y grŵp hwn ac mae hynny’n gyffrous iawn,” meddai Jess Fishlock wrth BBC Sport Wales echddoe.
“Mae’r ffordd y mae wedi bod ac wedi cario ei hun gyda’r grŵp yn rhyfeddol, mae hi wedi bod yn chwa o awyr iach.”
Ysbrydoledig
Wrth edrych ymlaen at gêm heno, dywedodd chwaraewr canol cae Cymru, Angharad James: “Mae hi mor bositif, mae hi wedi ein hysbrydoli yn ystod y dyddiau diwethaf ac ar ôl y cyfarfod cyntaf, rwy’n credu bod pawb wedi cerdded allan yn teimlo’n ysbrydoledig ac ar biga’r drain i fynd allan ar y cae.
“Fel rheolwr dyna’r dylanwad rydych chi am ei gael ar eich chwaraewyr.
“Mae dwyster yr hyfforddiant yn uchel iawn. Rydym yn gweld ei harddull o chwarae a’i athroniaeth yn dod drwodd ac mae’n gyfnod cyffrous iawn i fod yn chwarae mewn crys Cymru.”