Bu’n rhaid i Forgannwg ddibynnu ar bartneriaeth o 122 rhwng Dan Douthwaite a Timm van der Gugten i’w hachub ar ddiwrnod cynta’r tymor a’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley.

Mae’r bartneriaeth 15 rhediad yn brin o record wythfed wiced Morgannwg yn erbyn Swydd Efrog yn Llandrillo yn Rhos yn 2003, a honno wedi’i gosod gan Michael Kasprowicz ac Alex Wharf.

Fe wnaeth partneriaeth o 82 rhwng Kiran Carlson a Billy Root eu hachub am y tro cyntaf, ond fe lithron nhw unwaith eto i 132 am saith wrth golli Root am 43, cyn i Douthwaite a van der Gugten ychwanegu 122 am yr wythfed wiced yn ystod y prynhawn.

Er bod 200 yn sgôr uchelgeisiol ar un adeg, bydd Morgannwg yn fwy na bodlon wrth iddyn nhw orffen ar 310 am wyth gyda phartneriaeth ddi-guro o 56 rhwng Michael Hogan (40 heb fod allan) a Timm van der Gugten (80 heb fod allan – ei sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed).

Bore siomedig

Roedd Morgannwg yn 29 am dair ar ôl bowlio cywir Swydd Efrog o dan amodau anodd yng ngogledd Lloegr, gyda’r cymylau’n cynorthwyo’r tîm cartref yn ystod oriau cynta’r ornest.

Fe wnaeth Ben Coad ddarganfod ymyl bat Nick Selman ar ôl i hwnnw daro ergyd gynta’r tymor at y ffin cyn cael ei fowlio, ac fe ddilynodd David Lloyd yn fuan wedyn pan gafodd ei fowlio wrth godi’i fat yn amddiffynnol.

Tarodd y capten Steve Patterson goes y Gwyddel Andy Balbirnie o flaen y wiced ac fe allen nhw fod wedi colli pedwaredd wiced cyn yr egwyl pan gafodd Kiran Carlson ei ollwng yn y slip ar 15.

Taro’n ôl yn y prynhawn

Cyrhaeddodd Carlson ei hanner canred – carreg filltir gynta’r tymor i Forgannwg – yn fuan ar ôl cinio wrth yrru Duanne Olivier i’r ffin ar ochr y goes wrth i’w bartneriaeth â Root fynd o nerth i nerth. Erbyn hynny, roedd y batiwr o Gaerdydd eisoes wedi taro naw pedwar.

Ond yn yr un modd â sesiwn y bore, collodd Morgannwg wicedi cynnar, gyda Carlson allan am 55 wedi’i ddal yn y slip gan Adam Lyth oddi ar fowlio Duanne Olivier, a’r capten Chris Cooke wedi’i ddal yn yr un safle gan Tom Kohler-Cadmore oddi ar fowlio Patterson am un, a Morgannwg wedi llithro i 112 am bump.

Ond llithro ymhellach wnaethon nhw wedyn, wrth golli dwy wiced o fewn dim o dro.

Ar ôl ei chael hi’n anodd achub y batiad, arafodd cyfradd sgorio Morgannwg yn sylweddol ar ôl colli’r bumed wiced ac erbyn iddyn nhw golli’r chweched, roedden nhw wedi sgorio 128 yn unig, wrth i Matthew Fisher wyro’r bêl yn ôl i mewn at y wiced i dwyllo Callum Taylor. Cafodd Billy Root ei ddal yn isel gan y wicedwr Jonny Tattersall wedyn, oddi ar fowlio Coad am 43.

Goroesodd Dan Douthwaite ymgais am ddaliad yn y slip gan Harry Brook ar wyth, wrth iddo fe a’r Iseldirwr Timm van der Gugten geisio tywys Morgannwg i sgôr parchus yn niwedd y prynhawn, gan gyrraedd 163 am saith gyda phartneriaeth ddi-guro o 34 erbyn amser te – 37 rhediad yn brin o’r pwynt batio cyntaf o hyd.

Brwydro am bwyntiau

Cyrhaeddodd Douthwite ei hanner canred oddi ar 75 o belenni, yr un nifer â Carlson, wrth i van der Gugten anelu am yr un garreg filltir, gydag ail ergyd chwech y gêm yn mynd â fe i 44, ac yntau’n cyrraedd ei hanner canred oddi ar 97 o belenni ar ôl taro saith pedwar ac un chwech, a’r bartneriaeth yn mynd y tu hwnt i’r cant wrth i Forgannwg ennill ail bwynt bonws annisgwyl.

Ond daeth y bartneriaeth arwrol i ben ar 122 pan gafodd Douthwaite ei fowlio gan Coad am 57 ar ôl wynebu 90 o belenni, a’r sgôr yn 254 am wyth.

Gallai Michael Hogan fod wedi dilyn yn fuan wedyn, ond fe gafodd ei ollwng gan Olivier oddi ar fowlio Coad cyn i Forgannwg gyrraedd 300 am drydydd pwynt bonws.

Ymateb Kiran Carlson

“Fe wnaeth Dan a Timmy ein rhoi ni mewn lle da, yn enwedig gyda Hoges yn ymuno ar y diwedd,” meddai Kiran Carlson.

“Mae’n un o’r lleiniau hynny lle, os gewch chi fewn, gallwch chi elwa arni.

“Fe wnes i a Billy fwynhau batio gyda’n gilydd, wnaethon ni adeiladu partneriaeth fach ac roedd hi’n drueni nad o’n i wedi gallu bwrw iddi wedyn.

“Roedd yr amodau’n anodd allan yna, ac mae’n mynd yn oer iawn wrth i’r gwynt godi, ond mae’n rhywbeth mae’n rhaid i chi ymdopi â fe ym mis Ebrill.

“Rhaid i chi fwrw iddi a gwneud eich gwaith.”