Mae prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Warren Abrahams, wedi gwneud pedwar newid cyn herio Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Ebrill 10).

Cafodd Cymru eu curo o 53-0 yn erbyn Ffrainc yn wythnos agoriadol y Bencampwriaeth.

Bydd y cefnwr Robyn Wilkins yn ennill ei 50fed cap yn erbyn Iwerddon.

Ymhlith y newididadau i’r tîm mae Courtney Keight yn cymryd lle Jasmine Joyce ar yr asgell, sydd ddim ar gael gan ei bod yn chwarae i dîm saith-bob-ochr Prydain.

Mae Cara Hope a Cerys Hale yn disodli Caryl Thomas a Donna Rose yn y rheng flaen, tra bod Natalia John yn cymryd lle Teleri Wyn Davies yn yr ail reng.

Bydd y gic gyntaf ym Mharc yr Arfau am 5 o’r gloch ddydd Sadwrn (Ebrill 10).

Tîm Cymru

Robyn Wilkins; Lisa Neumann, Hannah Jones, Kerin Lake, Courtney Keight; Elinor Snowsill, Jess Roberts; Cara Hope, Kelsey Jones, Cerys Hale, Natalia John, Gwen Crabb, Georgia Evans, Manon Johnes, Siwan Lillicrap (c)

Eilyddion: Molly Kelly, Caryl Thomas, Donna Rose, Teleri Wyn Davies, Bethan Dainton, Megan Davies, Niamh Terry, Caitlin Lewis.