Mae Charlie Savage, mab cyn chwaraewr Cymru Robbie Savage, wedi arwyddo ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda Manchester United.

Mae’r llanc 17 oed, sy’n chwaraewr canol cae fel ei dad, wedi sgorio dwy gôl i dîm dan-18 oed Manchester United y tymor hwn.

Dechreuodd Robbie Savage, a aned yn Wrecsam, ei yrfa gyda Manchester United hefyd, ac roedd yn rhan o’r garfan enillodd Gwpan Ieuenctid yr FA yn 1992.

Chwaraeodd Charlie Savage dros Gymru dan 18 oed mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd fis diwethaf.

“Dwi wir yn mwynhau chwarae i United,” meddai wrth BBC Sport Wales ar ôl i Gymru golli 2-0 yng Nghaerdydd.

“Mae gennym griw gwych o fechgyn yno.”