Mae’r holl wledydd sy’n cynnal gemau yn nhwrnament Ewro 2020 yr haf hwn wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer derbyn cefnogwyr.

Bydd y twrnament, a gafodd ei ohirio am flwyddyn oherwydd pandemig y coronafeirws, yn cael ei gynnal rhwng Mehefin 11 a Gorffennaf 11.

Gofynnwyd i gymdeithasau pêl-droed y gwledydd gyflwyno cynlluniau i dderbyn cefnogwyr erbyn Ebrill 7.

Mae Glasgow, Dulyn, Llundain, Amsterdam, Copenhagen, St Petersburg, Bilbao, Munich, Budapest, Baku, Copenhagen, Rhufain a Bucharest i gyd i fod i gynnal gemau.

Gyda disgwyl i Uefa wneud penderfyniad terfynol ar y dinasoedd mewn cyfarfod pwyllgor gweithredol ar Ebrill 19, a’r angen i’r holl ddinasoedd warantu presenoldeb cefnogwyr, mae golwg360 yn edrych ar gynlluniau’r holl wledydd.

Glasgow, Yr Alban

Mae Llywodraeth yr Alban wedi rhoi cymeradwyaeth i 12,000 o gefnogwyr fynychu gemau ym Mharc Hampden ym mis Mehefin.

Mae hynny’n 25% o stadiwm 51,000 o gapasiti Glasgow, lle bydd tair gêm grŵp – gan gynnwys gemau Grŵp D yr Alban yn erbyn y Weriniaeth Tsiec a Croatia – ac un gêm rownd yr 16 olaf yn cael ei chwarae.

Dulyn, Gweriniaeth Iwerddon

Mae yno ofidion na fydd Dulyn yn gallu cynnal gemau Ewro 2020, ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Iwerddon (FAI) ddweud wrth Uefa na all roi sicrwydd ar isafswm nifer y cefnogwyr.

Dywedodd y FAI, sy’n gweithredu ar sail canllawiau Covid-19 gan Lywodraeth Iwerddon y “bydd y mater yn cael ei adolygu’n barhaus”.

Mae pedair gêm i fod i gael ei chwarae yn Stadiwm Aviva Dulyn – tair gêm grŵp ac un gêm yn rownd yr 16 olaf.

Llundain, Lloegr

Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud y bydd hyd at 10,000 o gefnogwyr yn cael eu caniatáu y tu mewn i stadiymau Lloegr o ganol mis Mai ymlaen.

A ni fydd cyfyngiadau ar y nifer o gefnogwyr all fynychu gemau o Fehefin 21 ymlaen.

Bydd Wembley, sydd â chapasiti o 90,000, yn cynnal saith gêm i gyd, gan gynnwys y rownd derfynol ar Orffennaf 11, y ddwy rownd gynderfynol, un gêm rownd yr 16 olaf, a thair gêm grŵp Lloegr.

Mae’r FA wedi dweud ei fod yn barod i gynnal unrhyw gemau ychwanegol na all ddigwydd mewn dinasoedd eraill, ac eisoes wedi cytuno i gynnal gemau oedd fod ym Mrwsel yn wreiddiol.

Amsterdam, Yr Iseldiroedd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Frenhinol Yr Iseldiroedd (KNVB) wedi cadarnhau y bydd o leiaf 12,000 o gefnogwyr yn cael mynychu gemau yn Amsterdam.

Bydd y Johan Cruyff Arena, sy’n gallu dal 54,000 o gefnogwyr, yn cynnal tair gêm grŵp ac un gêm rownd yr 16 olaf.

“Yn dibynnu ar ddatblygiadau yn ymwneud â pandemig Covid-19 ym mis Mehefin, mae siawns y bydd mwy o gefnogwyr yn cael eu caniatáu y tu mewn i’r stadiwm,” meddai’r KNVB.

Copenhagen, Denmarc

Bydd Denmarc yn caniatáu i “o leiaf 11,000 i 12,000” o gefnogwyr fynychu gemau Ewro 2020 yn Stadiwm Parken, sy’n dal 38,000 o gefnogwyr, a fydd yn cynnal tair gêm grŵp ac un gêm rownd yr 16 olaf.

Dywedodd gweinidog diwylliant Denmarc: “Byddwn yn ystyried a ellir cael hyd yn oed mwy o gefnogwyr yn y Parken os bydd y sefyllfa iechyd yn caniatáu hynny.”

Ond rhybuddiodd y byddai’n rhaid ystyried gwahardd cefnogwyr “os yw’r haint yn ymledu”.

St Petersburg, Rwsia

Mae Rwsia’n disgwyl caniatáu i gefnogwyr fynychu’r pedair gêm y mae’n eu cynnal yn Stadiwm Krestovsky, sy’n dal 68,000 o gefnogwyr, a fydd yn cynnal un rownd gogynderfynol yn ogystal â thair gêm grŵp.

Dywedodd cyfarwyddwr pwyllgor Rwsia, Alexei Sorokin, ei fod yn credu y gellid chwarae gemau “gyda’r cyfyngiadau lleiaf posibl”.

“Eisoes mae gennym gytundeb i lenwi’r stadiwm i gapasiti o 50%,” meddai.

“Rydym yn gweithio i groesawu cefnogwyr tramor ac nid yw hyn wedi cael ei wrthod gan yr awdurdodau.”

Bilbao, Sbaen

Roedd Bilbao wedi dweud i ddechrau ei fod yn barod i gynnal gemau Ewro 2020 yn stadiwm San Mames ar gapasiti o 25% (tua 13,000 o gefnogwyr), cyn belled â bod cyfraddau coronafeirws wedi gostwng i lefelau a dderbyniwyd gan yr awdurdodau iechyd rhanbarthol.

Fodd bynnag, dywedodd ffederasiwn pêl-droed Sbaen mewn datganiad ddydd Mercher (Ebrill 7) fod amodau llywodraeth Gwlad y Basg yn “amhosibl eu bodloni” mewn pryd ar gyfer dechrau twrnament ar Fehefin 11 ac felly ni fyddai’n gallu cynnal gemau gyda chefnogwyr.

Munich, Yr Almaen

Nid yw’r Almaen wedi rhoi syniad eto o nifer y cefnogwyr y gellid eu caniatáu, yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion coronafeirws yn y wlad.

Mae gan Arena Allianz gapasiti o 70,000 ac mae i fod i gynnal tair gêm grŵp ac un rownd gogynderfynol.

Budapest, Hwngari

Croesawodd Puskas Arena, 68,000 sedd Budapest,

Nid yw Hwngari wedi gwneud eu cynlluniau eto i groesawu cefnogwyr ar gyfer tair gêm grŵp ac un gêm rownd yr 16 olaf.

Fodd bynnag, cafodd 15,180 o gefnogwyr fynychi Pukas Arena, Budapest, ar gyfer buddugoliaeth Bayern Munich dros Sevilla yn yr Uefa Super Cup ym mis Medi.

Baku, Azerbaijan

Bydd Cymru’n chwarae dwy o’u gemau yng Ngrŵp A ym Mhrifddinas Azerbaijan, Baku.

Mae disgwyl i Stadiwm Olympaidd y wlad, sy’n gallu cynnal 69,000 o gefnogwyr gynnal tair gêm grŵp i gyd, yn ogystal ag un gêm rownd gogynderfynol.

Nid oes penderfyniad ar gefnogwyr wedi cael ei wneud eto.

Rhufain, Yr Eidal

Mae’r twrnament i fod i ddechrau yn Rhufain ar Fehefin 11, wrth i’r Eidal wynebu Twrci yn Stadiwm Olympaidd Rhufain.

Yn ôl ffederasiwn yr Eidal (FIGC), bydd y llywodraeth “yn nodi’r atebion gorau” i ganiatáu i gefnogwyr fynychu ei thair gêm grŵp ac un gêm rownd gogynderfynol.

Mae’r FIGC yn dweud y bydd Rhufain yn croesawu cefnogwyr, er nad yw nifer y cefnogwyr a ganiateir wedi ei ddatgelu eto.

Bucharest, Rwmania

Mae Llywodraeth Romania yn bwriadu croesawu 13,000 o gefnogwyr yn yr National Arena yn Bucharest.

Dyma’r tro cyntaf i’r stadiwm, sydd â chapasiti o 54,000, gynnal gemau mewn twrnament rhyngwladol dynion.

Bydd yn cynnal tair gêm grŵp ac un gêm rownd yr 16 olaf.

Dywedodd y Gweinidog chwaraeon y wlad, Eduard Novak: “Mae gennym y cyfle hanesyddol i fod yn rhan o ddigwyddiad chwaraeon mawr ac i ddangos y gallwn anrhydeddu ein rhwymedigaethau i’r safonau uchaf o ran trefniadaeth a diogelwch iechyd.”