Mae’r tymor criced sirol – a thymor canmlwyddiant Morgannwg yn sir dosbarth cyntaf – yn dechrau heddiw (dydd Iau, Ebrill 8), wrth iddyn nhw deithio i Headingley yn Leeds i herio Swydd Efrog yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd.
Dyma’u hymweliad cyntaf â’r cae ers 2012 a dim ond un chwaraewr, y gogleddwr David Lloyd, oedd yn y tîm ar gyfer y gêm honno sy’n dal i chwarae i’r sir, ac yntau heb sgorio’r un rhediad yn yr ornest wrth i’r tîm cartref ennill o wyth wiced.
Yn 1999, roedd eu prif hyfforddwr Matthew Maynard yn nhîm diwethaf Morgannwg i ennill yno, wrth iddo fe sgorio 186 cyn i Steve Watkin gipio pedair wiced wrth i Swydd Efrog gael eu gorfodi i ganlyn ymlaen.
Er i Richard Blakey sgorio canred i sir y rhosyn gwyn, Owen Parkin oedd y seren ymhlith bowlwyr Morgannwg wrth iddyn nhw ennill o fatiad a 52 o rediadau o fewn tridiau.
Dyma’u hunig fuddugoliaeth erioed yn Headingley, er eu bod nhw wedi ennill yn Harrogate yn 1955, Sheffield (Bramall Lane) yn 1957 a 1968, a Middlesbrough yn 1970 a 1993.
Dim ond 13 o weithiau mae batiwr Morgannwg wedi sgorio canred yn y Bencampwriaeth yn Swydd Efrog – a does neb wedi gwneud hynny ers i’r Awstraliad Matthew Elliott sgorio 125 yn Headingley yn 2004.
Don Shepherd, un o fawrion Morgannwg, sydd â’r ffigurau bowlio gorau i Forgannwg yn y sir, ar ôl iddo fe gipio naw wiced am 56 yn Scarborough yn 1966.
Brwydr y brodyr Root
Mae disgwyl i ddau frawd herio’i gilydd yn yr ornest yr wythnos hon.
Mae Joe Root, capten Lloegr, yn chwarae i Swydd Efrog tra bod Billy yn chwarae i Forgannwg a dyma fyddai’r tro cyntaf iddyn nhw chwarae yn erbyn ei gilydd yn y Bencampwriaeth.
Maen nhw wedi chwarae yn erbyn ei gilydd mewn gêm 50 pelawd o’r blaen, a hynny yn y gêm rhwng Swydd Nottingham (Billy) a Swydd Efrog (Joe) yn Trent Bridge yn 2017, wrth i Joe sgorio 75 heb fod allan – a tharo’r ergyd fuddugol am chwech oddi ar fowlio’i frawd – i sicrhau bod Swydd Efrog yn ennill o saith wiced.
Gweledigaeth y prif hyfforddwr
Mewn erthygl ar wefan Morgannwg, mae’r prif hyfforddwr Matthew Maynard wedi rhannu ei weledigaeth ar gyfer y tîm a’r tymor i ddod.
“Mae’r hogiau wedi gweithio’n galed iawn y gaeaf yma o dan amgylchiadau rhyfedd ac wrth fynd i mewn i’r gêm gynta’ hon yn erbyn Swydd Efrog, rydan ni’n teimlo y byddwn ni’n gystadleuol iawn,” meddai.
“Un o’r pethau ddaru ni ganolbwyntio arno fo cyn dechrau’r tymor oedd y diffyg rhediadau yn y batiad cynta’ y llynedd, a chywiro hynny.
“Dyna’r prif wahaniaeth ers 2019 pan ddaru ni chwarae criced da ac ennill.
“Os ydan ni’n llwyddiannus efo hynny, mi ddylen ni gael sefyllfaoedd da i fanteisio neu chwarae am gemau cyfartal cryf.”
Agor y batio
Un newid mawr eleni fydd symud y gogleddwr David Lloyd i agor y batio, ac mae Matthew Maynard yn teimlo y bydd adeiladu partneriaethau ar frig y batiad yn allweddol.
“Y gwahaniaeth rhwng chwarae’n dda a chwarae’n wael, yn aml iawn, ydi a oes gynnoch chi bartneriaethau agoriadol cadarn,” meddai.
“Yn ystod fy nghyfnod i efo’r clwb, rydan ni’n dal i drio ffeindio hynny.
“Rydan ni wedi rhoi cyfle i nifer o’r hogiau dros y tymhorau dwytha’, ond fo [David Lloyd] sydd wedi sefyll allan i mi wrth ymarfer.
“Chwaraeodd o’n dda yn ein gêm garfan ni ac mae o wedi addasu’n gyflym iddi.”
Mae’n dweud bod un o’i gyd-chwaraewyr yn nhîm y 1990au a chyn-gapten y clwb, Steve James, wedi bod yn trafod y grefft o agor y batio gyda David Lloyd yn barod ar gyfer dechrau’r tymor.
“Dywedodd o y byddai’n hoffi cael sgwrs efo fo,” meddai.
“Maen nhw wedi cael nifer o sgyrsiau am y meddylfryd sydd ei angen i agor y batio a’r penderfyniad mae’n rhaid i chi ei ddangos yno, felly gobeithio y bydd Lloydy yn cychwyn yn dda, yn magu hyder ac yn llwyddo.”
Y chwaraewyr tramor
Bydd y Gwyddel Andrew Balbirnie yn chwarae fel tramorwr am fis cynta’r tymor yn absenoldeb yr Awstraliad Marnus Labuschagne sydd, ynghyd â’i gydwladwr Michael Neser, ynghlwm wrth dymor domestig eu mamwlad ar hyn o bryd.
Yn ôl Matthew Maynard, roedd y clwb yn awyddus i ddenu’r Gwyddel eto ar ôl clywed na fyddai Labuschagne ar gael am gyfnod.
“Ddaru Balbo greu argraff dda iawn yn ystod ei gyfnod yn chwarae hefo ni y tymor dwytha’, a phan ddaru ni sylweddoli na fyddai Marnus yma ar gyfer dechrau’r tymor, fo oedd y dewis naturiol wedyn i gymryd ei le,” meddai.
“Yn amlwg, pan ddaw Neser i fewn, efo’r ardal mae o’n bowlio, mae’n golygu ei bod hi’n debygol y bydd o’n llwyddiant mawr yn ein hamodau ni.
“Mae o’n gricedwr penigamp felly rydan ni’n edrych ymlaen yn arw at weithio hefo fo pan ddaw o.”
Llygadu llwyddiant
Yn ôl Matthew Maynard, does dim rheswm pam na all Morgannwg ennill tlws y tymor hwn.
“Rydan ni mewn sefyllfa lle fedrwn ni ennill Pencampwriaeth y Siroedd neu Dlws Bob Willis, ac mae’n wych cael rhoi cynnig ar [ennill] tlws dosbarth cyntaf,” meddai.
“Wedi dweud hynny, er bod rhaid i ni gredu ynom ni’n hunain, rydan ni hefyd yn sylweddoli pa mor fawr ydi’r dasg sydd o’n blaenau.
“Mae angen i ni fod ar ein gorau ym mhob adran os ydan ni am fynd yn agos at dimau fel Swydd Efrog a Swydd Gaerhirfryn.
“Rydan ni i gyd yn ymwybodol iawn ar drothwy’r tymor pa mor ffodus rydan ni wedi bod fel criw o chwaraewyr a hyfforddwyr.
“Mae gweithio mewn camp élit yn golygu ein bod ni wedi medru bwrw iddi hefo’n swyddi.
“Dydi hi ddim yn rhywbeth rydan ni’n ei gymryd yn ganiataol ac mi fyddwn ni’n aros am y diwrnod pan fedrwn ni gael ein haelodau ffyddlon yn ôl yn y cae yn bloeddio’u cefnogaeth i ni.
“Pan ddaw’r cefnogwyr cynta’ hynny’n ôl, mi fydd yn teimlo fel pe bai’r lle’n llawn hyd yn oed os mai 500 o bobol fydd yno.
“Gobeithio na fydd hi’n rhy hir cyn y byddwn ni’n medru chwarae o’ch blaen chi eto,” meddai wedyn mewn neges uniongyrchol at y cefnogwyr.
“Ond tan hynny, gobeithio fedrwn ni wneud i chi deimlo’n falch ac y byddwch chi’n parhau i’n cefnogi ni o’ch lolfa ar ein ffrwd byw.”
Y timau
Does dim lle yng ngharfan Swydd Efrog i Gary Ballance, sydd allan â chyfergyd yn dilyn digwyddiad wrth ymarfer.
Ond mae James Weighell, sydd wedi ymuno â Morgannwg yr wythnos hon yn dilyn treialon llwyddiannus, wedi’i gynnwys yn y garfan.
Carfan Swydd Efrog: D Bess, H Brook, B Coad, M Fisher, T Loten, A Lyth, D Olivier, S Patterson (capten), J Root, J Tattersall, T Kohler-Cadmore, D Willey.
Y tîm: T Kohler-Cadmore, A Lyth, T Loten, J Root, H Brook, J Tattersall, D Bess, M Fisher, S Patterson (capten), B Coad, D Olivier
Carfan Morgannwg: N Selman, D Lloyd, A Balbirnie, B Root, K Carlson, C Cooke (capten), C Taylor, D Douthwaite, T Cullen, T van der Gugten, J Weighell, J McIlroy, M Hogan.
Y tîm: D Lloyd, N Selman, A Balbirnie, B Root, K Carlson, C Cooke (capten), C Taylor, D Douthwaite, T van der Gugten, M Hogan, J McIlroy
Mae Swydd Efrog wedi penderfynu maesu
- Mae modd gwylio’r gêm yn fyw ar wefan Morgannwg
- Blog byw
- Sgorfwrdd
Morgannwg yn denu’r chwaraewr amryddawn James Weighell ar gytundeb dwy flynedd
Rhagor am y tymor newydd:
Morgannwg “eisiau i dimau ofni dod i Gaerdydd”
Brexit a Covid: llanw a thrai i gricedwyr o Iwerddon, medd Gwyddel Morgannwg
Gogleddwr Morgannwg yn edrych ymlaen at y tymor criced newydd
Covid a’r gofid am gaeau allanol Morgannwg