Mae’r Athro Laura McAllister wedi lansio ei maniffesto ar gyfer ei hymgyrch i ennill sedd ar Gyngor pêl-droed Fifa.

Y Gymraes, sydd â 24 o gapiau dros ei gwlad, yw dirprwy gadeirydd pwyllgor merched UEFA, a hi fyddai’r cynrychiolydd benywaidd cyntaf ar y corff llywodraethu.

Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar Ebrill 20, ac mae maniffesto Laura McAllister yn amlygu ei phrofiad ym myd pêl-droed, a sut bod hynny’n cyd-fynd â’i sgiliau proffesiynol.

Dros y blynyddoedd, mae Laura McAllister wedi bod yn gadeirydd Chwaraeon Cymru, ac yn aelod ar Fwrdd Chwaraeon y Deyrnas Unedig – y bwrdd sy’n gyfrifol am fuddsoddi mewn chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd.

Potensial

Eisoes, mae hi wedi trafod yr angen am fwy o gydbwysedd rhwng gêm y dynion a’r menywod ar lefel ryngwladol, ac wedi galw am fwy o gydbwysedd rhwng timau mawr a bach.

Mae pedwar prif thema ei hymgyrch yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Clybiau a Chymdeithasau Aelodau: Meithrin y gêm ar bob ffurf, a sicrhau fod pêl-droed yn cyffwrdd a chyfoethogi pob cymuned.
  • Cydbwysedd Cystadleuol: Cynorthwyo pob cymdeithas wrth iddyn nhw gryfhau pêl-droed ar gyfer pawb, ymhob man.
  • Pêl-droed i Fenywod: Mae gan y gêm botensial anferth, ac mae ganddo gyfle i dyfu, yn nhermau’r niferoedd sy’n cymryd rhan ac yn fasnachol ar lefel fyd-eang, yn ôl Laura McAllister.
  • Gonestrwydd, Rheoli, a Mynd i’r Afael â Cham-drin: Mynd i’r afael â chymryd cyffuriau yn y gêm, ac anonestrwydd, a blaenoriaethu gweithredu’n llym tuag at gamdriniaeth ar-lein.

“Byddaf yn defnyddio fy nghefndir pêl-droed, ynghyd â fy sgiliau proffesiynol, er mwyn gweithio’n ddiflino i ddatblygu a symud ein gêm yn ei blaen i bawb,” meddai.

“Rydw i’n addo y bydd fy nrws bob amser ar agor, er mwyn sicrhau fy mod i’n gallu cynrychioli blaenoriaethau a phryderon pawb hyd orau fy ngallu.”

Laura ar ei ffordd i FIFA?

Phil Stead

Rydw i’n cofio gyrru i’r Fflint un prynhawn i’w gweld hi yn cynrychioli Cymru ac yn gapten y tîm.