Mae amheuon wedi codi a fydd Tom Lockyer, amddiffynnwr Cymru a Luton, yn holliach ar gyfer Pencampwriaeth yr Ewros yn yr haf.

Daw hyn ar ôl i Luton gyhoeddi y bydd e allan am weddill y tymor ar ôl iddo gael llawdriniaeth ar ei ffêr.

Mae tymor y Bencampwriaeth yn dod i ben ar Fai 8, tra bod Cymru’n chwarae eu gêm gyntaf yn y  twrnament yn erbyn y Swistir yn Baku yn Azerbaijan ar Fehefin 12.

Fe ddioddefodd Lockyer, 26, yr anaf wrth chwarae i Luton yn erbyn Caerdydd, ei glwb cyntaf, ym mis Chwefror.

Roedd wedi bod yn chwarae’n rheolaidd i’r clwb cyn hynny, gan ymddangos mewn 18 gêm.

Mae e wedi ennill 13 cap dros Gymru ac mae’n debyg y byddai ymysg yr amddiffynwyr dan ystyriaeth ar gyfer y garfan ar gyfer yr Ewros.