Mae chwaraewyr tîm rhyngwladol merched Cymru yn hyderus y gall eu rheolwr newydd, Gemma Grainger, eu helpu i gymhwyso ar gyfer twrnament rhyngwladol, yn ôl Jess Fishlock.

Cafodd Gemma Grainger ei phenodi fis diwethaf ar ôl i Jayne Ludlow adael y swydd, ac mae hi bellach yn paratoi ar gyfer ei gemau cyntaf wrth y llyw.

Mae Grainger, sy’n 38 oed, wedi rheoli mewn mwy na 90 o gemau rhyngwladol ac roedd yn rhan o staff hyfforddi Lloegr ar gyfer Ewro 2017, lle cyrhaeddon nhw’r rownd gyn-derfynol.

Mae Cymru’n chwarae yn erbyn Canada ddydd Gwener (Ebrill 9) cyn herio Denmarc ddydd Mawrth (Ebrill 13).

“Chwa o awyr iach”

Dywed Fishlock fod y rheolwr newydd wedi gwneud argraff ar y chwaraewyr ar unwaith.

Eglurodd Gemma Grainger pan gafodd ei phenodi ei bod yn bwriadu arwain menywod Cymru i dwrnament rhyngwladol ac mae Jess Fishlock yn dweud bod gan y chwaraewyr ffydd y gall hi wneud hynny.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd Gemma yn cael y gorau o bob person yn y grŵp hwn ac mae hynny’n gyffrous iawn,” meddai Jess Fishlock wrth BBC Sport Wales.

“Mae’r ffordd y mae wedi bod ac wedi cario ei hun gyda’r grŵp yn rhyfeddol, mae hi wedi bod yn chwa o awyr iach. Mae hi mor bersonol ac yn hawdd siarad gyda.

“Mae Gemma yn gwybod beth mae hi eisiau. Mae’n ymddangos ei bod yn gwybod sut i gyrraedd yno ac mae angen i ni gredu y gallwn gyrraedd yno hefyd.”

“Cyffrous”

Wrth drafod ei sesiynau hyfforddi cyn y gemau cyfeillgar, ychwanegodd Jess Fishlock fod “y gwersyll yn wych, mae pawb yn gyffrous ac ychydig yn nerfus hefyd oherwydd mae hyn i gyd yn newydd, doedd neb yn gwybod beth i’w ddisgwyl, ac ychydig yn bryderus am hynny”.

“Ond rwy’n credu bod hynny wedi diflannu ar ôl y diwrnod cyntaf, mae’r ddau ddiwrnod diwethaf wedi bod yn wych, mae Gemma yn wych ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at gydweithio a chyflawni ein nodau,” meddai wedyn.

“Aeth Gemma drwy broses anodd iawn a daeth i’r amlwg mai hi oedd y person gorau i ni.”