Sicrhaodd y Cymro Cymraeg Jonny Clayton ei fuddugoliaeth gyntaf erioed yn yr Uwch Gynghrair Dartiau neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 6), wrth iddo fe guro’r Sais Glen Durrant o 7-3 ym Milton Keynes.

Daw hyn ar ôl iddo fe gipio pwynt yn erbyn yr Albanwr Peter Wright ar y noson gyntaf nos Lun (Ebrill 5).

Roedd gan ‘Ferret’ flaenoriaeth o 5-0 – heb fod ei wrthwynebydd wedi cael yr un tafliad am ddwbwl i ennill gêm – cyn i Durrant daro’n ôl i’w gwneud hi’n 6-3 cyn colli yn y pen draw.

Sgoriodd Clayton bedwar 180 – pob un uchafswm yn yr ornest – gan daflu sgôr gorau o 96 i ennill gêm a llwyddo gyda saith allan o 18 ymgais am ddwbwl i ennill gêm tra bod Durrant wedi gwastraffu chwe chyfle allan o naw.

 

Pwynt i Jonny Clayton ar noson gynta’r Uwch Gynghrair Dartiau

Doedd y Cymro arall, Gerwyn Price ddim yn chwarae ar ôl profi’n bositif am Covid-19