Cipiodd y Cymro Cymraeg Jonny Clayton bwynt yn erbyn yr Albanwr Peter Wright ym Milton Keynes ar noson agoriadol yr Uwch Gynghrair Dartiau neithiwr (nos Lun, Ebrill 5).

Daeth yr ornest i ben yn gyfartal 6-6.

Aeth pedair gêm gynta’r ornest yn erbyn y taflwr cyn i Wright fynd ar y blaen o 5-3.

Ond er iddo fe lwyddo â phob un o’i chwe thafliad at ddyblau, dechreuodd e’r degfed gêm yn wan wrth sgorio dim ond saith â’i dri dart cyntaf ac ildio’r tafliad.

Methodd Clayton ag ymgais at ganol y targed a fyddai wedi rhoi sgôr o 161 iddo fe i gau’r gêm allan a mynd ar y blaen o 6-5, ond fe ddaliodd ei dir yn y pen draw i gipio’r pwynt.

Gemau eraill

Roedd pwynt hefyd i’r Iseldirwr Michael van Gerwen yn erbyn Dimitri Van Den Bergh.

Roedd van Gerwen ar ei hôl hi o 6-5 wrth i Van Den Bergh o Wlad Belg chwarae yn yr Uwch Gynghrair am y tro cyntaf.

Bu’n rhaid i van Gerwen gwblhau’r gêm olaf â deuddeg dart i sicrhau’r gêm gyfartal.

Roedd pwynt hefyd i’r Sais James Wade, eilydd Gerwyn Price, wrth i’w ornest yn erbyn yr Albanwr Gary Anderson orffen yn gyfartal, wrth i Anderson sgorio 156 i orffen yr ornest.

Roedd gêm gyfartal hefyd i’r Sais Rob Cross yn erbyn Jose De Sousa o Bortiwgal, tra bo Nathan Aspinall wedi curo’i gyd-Sais Glen Durrant o 7-3.

Gemau nos Fawrth

Gary Anderson v Jose De Sousa

Jonny Clayton v Glen Durrant

Dimitri Van Den Bergh v Nathan Aspinall

Michael van Gerwen v Peter Wright

James Wade v Rob Cross