Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau eu bod nhw’n destun embargo trosglwyddiadau fel rhan o “broses weinyddol” y Gynghrair Bêl-droed.
Dywed y clwb na fydd yr embargo yn cael effaith ar y clwb o ddydd i ddydd na’i sefyllfa ariannol.
Dydy’r clwb ddim chwaith yn disgwyl i’r mater effeithio ar eu gallu i brynu a gwerthu chwaraewyr yn yr haf.
Mewn datganiad, mae’r clwb yn dweud bod Llywodraeth Prydain wedi ymestyn y dyddiad cau i gyflwyno cyfrifon clybiau pêl-droed am dri mis, ond fod bod yn destun embargo yn rhan o amodau’r estyniad.
Daw hyn yn sgil pandemig Covid-19, meddai’r clwb.
Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n cyflwyno’u cyfrifon cyn diwedd y mis, ac y bydd hyn yn arwain at ddileu’r embargo.
Mae embargo hefyd ar glybiau Coventry a Luton am yr un rheswm.