Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi denu Ben Warren, prop pen tynn Cymru dan 20, ar gytundeb dwy flynedd.

Mae Warren, 20, yn brop pen tynn addawol a chafodd ei enwi yng ngharfan Chwe Gwlad dan 20 Cymru yn 2019.

Chwaraeodd i dîm Ysgolion y Rhondda cyn graddio i Academi Gleision Caerdydd.

Bydd e’n ymuno â’r Gweilch ar ddiwedd y tymor.

“Dyma’r her sydd ei hangen arnaf”

“Yn bersonol, dyma’r her sydd ei hangen arnaf, mae’n amgylchedd gwahanol ac yn rhywbeth rwy’n edrych ymlaen ato’n fawr,” meddai Ben Warren.

“Rydw i eisiau gwella fel chwaraewr ac rwy’n teimlo y gallaf wneud hynny gyda’r Gweilch.

“Gallwch weld chwaraewyr ifanc yn cael cyfle yn y Gweilch dan arweiniad Toby Booth ac rwy’n nabod cryn dipyn o’r chwaraewyr yno sydd wedi cael cyfle i chwarae yn y tîm cyntaf.

“Fel chwaraewr ifanc, mae hynny’n gyffrous i’w weld.

“Mae’n golygu y byddaf yn cael cyfle i chwarae ac rwyf am symud ymlaen fel chwaraewr a pherson.

“Mae gweld rhywun fel Tom Francis yn arwyddo yn rheswm arall oherwydd byddaf yn cael y cyfle i wylio, hyfforddi a dysgu ganddo.”

“Potensial”

“Mae’n hanfodol ein bod yn cael chwaraewyr ifanc i mewn i’n cronfa dalent ac mae Ben yn ffitio’r daith rydyn ni arni gyda’r  Gweilch,” meddai Toby Booth, prif hyfforddwr y Gweilch.

“Rydym yn awyddus i adeiladu tîm ar gyfer y tymor hir yn ogystal â chystadlu’n gyson nawr.

“Fel cyn-chwaraewr rhyngwladol dan 20 Cymru mae ganddo botensial ac rydym yn gyffrous i ddatblygu hynny.”