Mae Clwb Criced Morgannwg wedi denu’r chwaraewr amryddawn 27 oed, James Weighell ar gytundeb dwy flynedd.

Treuliodd e gyfnod ar fenthyg yn Swydd Gaerlŷr ar ddiwedd y tymor diwethaf ar ôl gadael Durham.

Mae e wedi chwarae 16 o gemau dosbarth cyntaf, gan gipio 52 o wicedi ar gyfartaledd o 28.86, gan sgorio 529 o rediadau ar gyfartaledd o fwy na 24, gan daro tri hanner canred.

Mewn gemau undydd, mae e wedi cipio 22 o wicedi.

Mae’n ymuno â’r sir yn dilyn treialon llwyddiannus yn ystod y gaeaf.

‘Newyddion gwych’

“Mae’n newyddion gwych cael dod â rhywun o safon James i’r clwb,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Fe gafodd e dreialon gyda ni cyn dechrau’r tymor gan greu argraff ar bawb gyda’i gêm yn ei chyfanrwydd.

“Mae e’n gricedwr amryddawn iawn a chanddo bedigri ym mhob fformat.

“Bydd James yn ychwanegu dyfnder i’n carfan ac yn ychwanegu at ein opsiynau bowlio sêm.”

‘Ymgartrefu yng Nghymru’

“Mae’n wych cael y cyfle hwn gyda Morgannwg,” meddai James Weighell.

“Mae’n her newydd a chyffrous ac alla i ddim aros i gael dechrau arni ac ad-dalu’r ffydd mae’r clwb wedi’i dangos ynof fi.

“Mae pawb wedi bod yn groesawgar dros ben, a dw i’n edrych ymlaen at ymgartrefu yng Nghymru.”