Mae tîm criced dinesig merched y Tân Cymreig wedi denu Sarah Taylor, cyn-wicedwr Lloegr sy’n cael ei hystyried yn un o’r chwaraewyr gorau erioed, ac sy’n dychwelyd i’r gamp ar ôl ymddeol ddwy flynedd yn ôl.

Mae hi wedi ymuno â’r tîm ar gyfer cystadleuaeth Can Pelen y merched ar gyfer tymor cynta’r gystadleuaeth eleni.

Chwaraeodd hi 226 o weithiau dros Loegr, gan gynnwys deg gêm brawf, 126 o gemau 50 pelawd a 90 o gemau ugain pelawd, cyn ymddeol yn 2019.

Enillodd hi Gyfres y Lludw dair gwaith a Chwpan y Byd ddwywaith, yn 2009 a 2017.

Erbyn iddi ymddeol, roedd hi wedi hawlio 232 o ddaliadau a stympiadau, sy’n record yng ngêm y merched, a sgoriodd hi 6,533 o rediadau rhyngwladol, gan gynnwys saith canred a 36 hanner canred.

Hi yw’r degfed prif sgoriwr rhediadau yn hanes gêm y merched.

Mae hi bellach yn hyfforddi wicedwyr tîm dynion Sussex.

Ymateb

“Mae cryn wefr ynghylch y Can Pelen ac yn enwedig cystadleuaeth y merched,” meddai Sarah Taylor.

“Mae gyda ni’r chwaraewyr gorau o bob cwr o’r byd ac roedd y demtasiwn o gymryd rhan ynddi’n ormod i’w gwrthod.

“Dw i wedi cyffroi o gael chwarae eto.

“Bydd hi’n arbennig iawn cael mynd allan eto a bod yn rhan o dîm y Tân Cymreig a all gael tymor cyntaf gwych, gobeithio.”

Mae Sarah Taylor wedi cael ei chroesawu i’r tîm gan Matthew Mott, prif hyfforddwr y Tân Cymreig a Beth Barrett-Wild, pennaeth cystadleuaeth Can Pelen y merched.

“Mae Sarah yn un o’r cricedwyr gorau mae Lloegr wedi’u cynhyrchu erioed,” meddai Matthew Mott.

“Does dim rhaid dweud y byddai hi’n gwella unrhyw dîm ac rydyn ni wrth ein boddau ei bod hi wedi arwyddo [cytundeb] gyda ni.

“Bydd ei phrofiad a’i gallu i ddylanwadu ar gemau’n hanfodol wrth i ni geisio gosod seiliau cadarn yn ein hymgyrch gyntaf.”

Yn ôl Beth Barrett-Wild, mae Sarah Taylor “yn gricedwr hollol eithriadol sydd wedi arfer â thorri tir newydd yn y gêm drwy gydol ei gyrfa”.

“Mae’n hollol briodol, felly, y bydd hi’n ymddangos yn y Can Pelen yr haf yma – cystadleuaeth sydd â’r potensial i drawsnewid criced i ferched.

“Dw i’n bersonol wedi cyffroi’n fawr ynghylch ei gwylio hi’n chwarae eto, a dw i’n sicr y bydd ei hymrwymiad a’i pherfformiadau’n helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched a bechgyn i gwympo mewn cariad â’r gamp.”