Casnewydd oedd yr unig un o dimau pêl-droed Cymru yng nghynghreiriau Lloegr i ennill neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 5), wrth iddyn nhw guro Bolton gartref o 1-0.

Sgoriodd Nicky Maynard unig gôl y gêm ar ôl 62 munud i ddod â rhediad o dair colled ei dîm i ben, ac mae’r rheolwr Mike Flynn yn teimlo y gallai fod wedi cael hatric.

Mae’r canlyniad yn gweld Bolton yn cwympo islaw’r safleoedd ail gyfle am y tro cyntaf ers mis Ionawr, tra bo’r Alltudion yn y safleoedd ail gyfle erbyn hyn.

“Gallwch chi weld pam eu bod nhw wedi bod yn ddi-guro ers amser hir,” meddai Mike Flynn, rheolwr Casnewydd, am eu gwrthwynebwyr.

“Ro’n i’n meddwl bod Bolton yn dda iawn ac roedden nhw’n well yn yr hanner ac roedd hi’n eitha’ cyfartal yn yr ail hanner.

“Dw i jyst yn falch gyda’r triphwynt oherwydd rydyn ni wedi chwarae’n well yn y tair gêm diwethaf a heb gael pwynt.”

‘Y perfformiad gwaethaf ers i fi fod yma’

Mae Mick McCarthy, rheolwr Caerdydd, yn dweud mai’r grasfa o 5-0 yn erbyn Sheffield Wednesday yn Hillsborough yw’r “perfformiad gwaethaf ers i fi fod yma”.

Roedd yr Adar Gleision ar ei hôl hi o 3-0 o fewn 23 munud, wrth i Sheffield Wednesday fynd gam yn nes at sicrhau bod eu lle yn y Bencampwriaeth yn ddiogel y tymor nesaf.

Sgoriodd Julian Bonner o fewn tair munud, cyn i Callum Paterson rwydo yn erbyn ei hen glwb i ddyblu mantais Wednesday cyn i Adam Reach sgorio cic rydd dair munud yn ddiweddarach.

Sgoriodd Jordan Rhodes bedwaredd gôl ei dîm ar ôl 65 munud cyn i Reach sgorio’i ail ar ôl 68 munud.

Dyma’r tro cyntaf i Sheffield Wednesday guro Caerdydd ddwywaith yn yr un tymor ers 1983-84, ac mae’r canlyniad yn eu codi nhw oddi ar waelod y tabl, tra bod Caerdydd wyth pwynt islaw’r safleoedd ail gyfle.

“Roedden nhw’n dipyn gwell na ni,” meddai Mick McCarthy.

“Hwn oedd y perfformiad gwaethaf ers i fi fod yma a byddwn i’n dychmygu mai hwn oedd perfformiad gorau Sheffield Wednesday y tymor hwn.”

Gôl i’w rwyd ei hun i gapten Abertawe

Mae Abertawe bellach wedi colli pedair gêm o’r bron, ac roedden nhw’n anffodus wrth ildio gôl i’w rhwyd eu hunain yn hwyr iawn yn y gêm yn erbyn Preston i’w gwneud hi’n 1-0 yn Stadiwm Liberty.

Ond mae’r rheolwr Steve Cooper yn cyfaddef nad oedd ei dîm wedi gwneud digon i ennill y gêm.

Dal eu tir wnaethon nhw am gyfnodau helaeth cyn i’r bêl adlamu oddi ar y capten Matt Grimes wrth i’r amddiffyn geisio clirio’r bêl yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau yn niwedd y gêm wrth i’r cyn-Alarch Scott Sinclair ymosod.

Mae’r Elyrch ddeg pwynt islaw’r safleoedd dyrchafiad awtomatig a bydd rhaid iddyn nhw weddnewid eu canlyniadau diweddar os ydyn nhw am ddal eu gafael ar safle ail gyfle. Dim ond pedwar pwynt sydd rhyngddyn nhw a’r seithfed safle.

“Rydyn ni’n siomedig iawn,” meddai Steve Cooper.

“Wnaethon ni ddim gwneud digon yn y gêm i’w hennill hi.

“Gallech chi ddweud ein bod ni wedi bod yn anffodus i’w cholli hi gyda’r bêl yn adlamu a sut aeth hi i mewn, ond dyna dri thafliad hir mewn tair gêm lle’r ydyn ni wedi ildio goliau oddi arnyn nhw ac wedi colli.

“Dw i ddim yn mynd i guddio, dydyn ni ddim yn cadw llechi glân, dydyn ni ddim yn sgorio a dydyn ni ddim yn ennill.”

Gôl hwyr i Torquay yn erbyn Wrecsam

Sgoriodd Sam Sherring yn hwyr yn y gêm i Torquay wrth i Wrecsam golli o 1-0 gartref ar y Cae Ras.

Mae Torquay wedi ennill dwy gêm yn olynol dros y penwythnos, gyda buddugoliaeth hefyd yn erbyn Woking yn eu helpu yn y ras am ddyrchafiad.

Ond dyma ail golled Wrecsam dros gyfnod y Pasg, ac mae’n ergyd i’w gobeithion o gyrraedd y gemau ail gyfle.

Cael a chael oedd hi yn yr hanner cyntaf, wrth i’r ddau dîm orffen yn waglaw, cyn i Wrecsam bwyso’n gynnar yn yr ail hanner.

Ar ôl ail hanner agos hefyd, daeth unig gôl y gêm yn yr amser a ganiateir am anafiadau wrth i Sherring fanteisio ar wendid Wrecsam wrth geisio clirio’r bêl.

“Un arall sy’n anodd i’w dderbyn,” meddai’r rheolwr Dean Keates am y canlyniad.

“Rydyn ni wedi taro’r postyn, wedi taro’r trawst, wedi cael un wedi’i chlirio oddi ar y llinell ac mae’r golwr wedi cael y mwyafrif o arbedion i’w gwneud, ac rydyn ni wedi cael ein dal gan ail gymal tafliad hir.

“Roedd hi’n bytiog ond wnaethon ni wneud mwy na digon i gael rhywbeth allan o’r gêm ac yn y pen draw, pe baen ni wedi cipio pwynt, byddwn i fwy na thebyg yn dweud pa mor siomedig oedd hi nad oedden ni wedi cael triphwynt.

“Dylen ni fod wedi gweld y gêm drwodd i’w therfyn ac mae’n rhaid i ni ddysgu ohoni.”