Yn dilyn ffenestr ryngwladol lawn, roedd gan sawl clwb ddwy gêm dros benwythnos y Pasg wrth i gyfnod prysur y calendr pêl droed barhau.

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Tyler Roberts a Joe Rodon a oedd yr unig Gymry i ddechrau i’w clybiau yn yr Uwch Gynghrair y penwythnos hwn. Roedd Roberts yn rhan o dîm buddugol Leeds yn erbyn Sheffield United ddydd Sadwrn a Rodon yn rhan o amddiffyn Tottenham a ildiodd ddwy mewn gêm gyfartal yn erbyn Newcastle ddydd Sul.

Chwaraeodd Ethan Ampadu yr ail hanner i’r Blades yn erbyn Leeds a chafodd Gareth Bale bum munud oddi ar y fainc yng ngêm Spurs, gyda Ben Davies yn parhau i fod wedi’i anafu.

Joe Rodon a Gareth Bale

Yn dilyn ei berfformiadau da i Gymru, nid oedd Neco Williams yng ngharfan Lerpwl wrth iddynt guro Arsenal nos Sadwrn ac er ei fod yn ôl yn holliach nid oedd lle i Wayne Hennessey yn nhîm nac ar fainc Crystal Palace ym Mharc Goodison nos Lun.

Stori gyfarwydd â oedd hi i Hal Robson-Kanu, Danny Ward a Neil Taylor hefyd wrth iddynt wylio gemau West Brom, Caerlŷr ac Aston Villa o’r fainc. Golygodd hynny mai Dan James a oedd yr unig Gymro arall i gamu ar y glaswellt y penwythnos hwn, yn chwarae deunaw munud olaf buddugoliaeth Man U yn erbyn Brighton nos Sul.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Roedd hi’n benwythnos i’w anghofio i Abertawe, yn colli o gôl i ddim ddwywaith mewn pedwar diwrnod, ym Mirmingham nos Wener a gartref yn erbyn Preston ddydd Llun. Chwaraeodd Connor Roberts y 90 munud yn y ddwy gêm a chwaraeodd Ben Cabango yn erbyn Preston wrth i Steve Cooper newid siâp y tîm i chwarae gyda phedwar yn y cefn.

Chwaraeodd Andrew Hughes a Ched Evans yn y fuddugoliaeth honno i Preston, a hynny wedi iddynt ddechrau’r gêm gyfartal yn erbyn Norwich ychydig ddyddiau cyn hynny. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Billy Bodin ar y ddau achlysur.

Fel Abertawe, cafodd Caerdydd Basg anhapus hefyd wrth i’w gobeithion o gyrraedd y gemau ail gyfle bylu gyda dwy golled, y naill o gôl i ddim gartref yn erbyn Nottingham Forest ddydd Gwener a’r llall yn gweir o bum gôl i ddim yn Sheffield Wednesday nos Lun.

Will Vaulks a Kieffer Moore a oedd yr unig Gymry i ddechrau’r ddwy gêm. Dechreuodd Harry Wilson yn erbyn Forest cyn cael ei eilyddio am Jonny Williams cyn i’r drefn newid yn Sheffield, Joniesta yn dechrau i’r Adar Gleision am y tro cyntaf, gyda Wilson yn dod ymlaen yn ei le. Cafodd y bechgyn ifanc, Mark Harris a Rubin Colwill ychydig funudau yn erbyn Forest hefyd.

Jonny Williams

Y tu hwnt i’r clybiau Cymreig, roedd hi’n benwythnos da i Tom Lawrence wrth iddo ddechrau dwy gêm Derby. Ar ôl chwarae fel ôl-asgellwr chwith i Gymru yn erbyn Mecsico yn y gêm gyfeillgar ddiweddar, cafodd ei ddefnyddio yn y safle hwnnw eto wrth i’w glwb drechu Luton o ddwy gôl i ddim. Ac er i Derby golli o dair i un yn erbyn Reading, fe sgoriodd Lawrence gôl wych o 30 llath.

Sôn am Luton, mae Tom Lockyer yn parhau i fod allan o’r garfan wedi’i anafu a Joe Morrell yn parhau i gynhesu’r fainc i dîm Nathan Jones, dyna a wnaeth yn erbyn Derby ac yna eto yn erbyn Barnsley ddydd Llun.

Ennill un a cholli un a oedd hanes Stoke, yn trechu Bristol City o ddwy gôl i ddim cyn colli o ddwy i un yn erbyn Millwall. Tebyg iawn a oedd tîm Stoke ar gyfer y ddwy gêm, gydag Adam Davies, James Chester a Rhys Norrington-Davies i gyd yn chwarae 180 munud. Daeth Sam Vokes oddi ar y fainc yn y ddwy gêm gyda Chris Norton yn ymuno ag ef yn erbyn Bristol City a Rabbi Matondo yn erbyn Millwall.

Ymddangosodd dau Gymro oddi ar y fainc i’r gwrthwynebwyr yn y gemau hynny hefyd, Marley Watkins i Bristol City ddydd Gwener a Tom Bradshaw i Millwall ddydd Llun.

Chwaraeodd George Thomas chwarter olaf buddugoliaeth gyfforddus QPR yn erbyn Coventry ond aros ar y fainc a wnaeth wrth iddynt golli yn Nottingham Forest.

Ni chafodd Chris Mepham ei gemau gorau dros Gymru yn erbyn Gwlad Belg a’r Weriniaeth Tsiec ac ar y fainc yr oedd ar gyfer dwy gêm ddiweddaraf ei glwb, Bornemouth.

Mae gan Wycombe fynydd i’w ddringo os am aros yn y Bencampwriaeth ond arhosodd eu gobeithion main yn fyw gyda dwy fuddugoliaeth dros benwythnos y Pasg. Chwaraeodd Joe Jacobson a chreu unig gôl y gêm yn erbyn Blackburn cyn dechrau eto yn y fuddugoliaeth o dair gôl i ddim yn Rotherham. Cafodd Alex Samuel funud neu ddau oddi ar y fainc yn erbyn Blackburn hefyd.

 

*

 

Cynghreiriau is

Blackpool yw’r tîm ar dân yn yr Adran Gyntaf ac maent wedi hedfan i’r safleoedd ail gyfle gyda buddugoliaethau yn erbyn Swindon ddydd Gwener a Gillingham ddydd Llun. Record amddiffynnol gref a pherfformiadau allweddol Chris Maxwell yn y gôl sydd yn sail i’r cwbl a dim ond Hull a Sunderland sydd wedi ildio llai yn y gynghrair.

Un o’r timau y maent wedi codi drostynt yw Lincoln wedi i gemau tîm Regan Poole a Brennan Johnson gael eu gohirio oherwydd achosion Covid-19 yn y clwb.

Dau glwb arall sydd yn brwydro am y safleoedd ail gyfle yw Charlton, Ipswich a Doncaster.

Chwaraeodd Adam Matthews a Chris Gunter ym muddugoliaeth Charlton dros Doncaster, Matthews o’r dechrau a Gunts oddi ar y fainc. Dechreuodd Matthew Smith y gêm honno i Donny a’r golled yn erbyn Bristol Rovers ychydig ddyddiau’n ddiweddarach.

Dechreuodd Gwion Edwards ddwy gêm Ipswich, buddugoliaeth o ddwy gôl i un yn erbyn Bristol Rovers ac yna gêm ddi sgôr yn erbyn Rochdale.

O ran Bristol Rovers, nid oedd Cian Harries yn y garfan ar gyfer yn golled yn Ipswich ond roedd yn yr amddiffyn ar gyfer y fuddugoliaeth yn erbyn Lincoln.

Colli un ac ennill un a fu hanes Fleetwood hefyd, colli gartref o gôl i ddim yn erbyn Peterborough cyn ennill o’r un sgôr yn Wimbledon, gyda Wes Burns yn chwarae’r 90 munud yn y ddwy gêm.

Parhau y mae cyfnod hesb Luke Jephcott o flaen gôl. Yn dilyn dechrau gwych i’r tymor mae’r Cymro wedi colli’i le yn nhîm Plymouth a methodd a chreu argraff oddi ar y fainc yn eu gemau diweddaraf yn erbyn Wimbledon a’r Amwythig.

Mae’n ymddangos yn gynyddol debygol y bydd Lee Evans yn chwarae’i bêl droed yn yr Ail Adran y tymor nesaf wedi iddo ef a Wigan golli gartref yn erbyn Portsmouth ddydd Llun.

Clwb sydd yn gobeithio symud i’r cyfeiriad arall yw Casnewydd. Rhoddwyd cnoc i obeithion yr Alltudion o gyrraedd gemau ail gyfle’r Ail Adran gyda cholled yn Barrow ddydd Gwener ond maent yn aros yn y saith uchaf ar ôl trechu Bolton ddydd Llun.

Dechreuodd Josh Sheehan y ddwy gêm yng nghanol cae ac felly hefyd Liam Shephard ac Aaron Lewis fel ôl-asgellwyr. Dechreuodd Joe Ledley’r gêm gyntaf cyn dod oddi ar y fainc yn yr ail, a hynny mewn safe anghyfarwydd iddo, fel un o dri amddiffynnwr canol.

Dechreuodd pedwar Cymro yn nhîm Bolton hefyd; Gethin Jones, Declan John, Jordan Williams a Lloyd Isgrove; ac mae hwythau hefyd yn aros yn y safleoedd ail gyfle.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Cafodd Owain Fôn Williams brynhawn prysur ond boddhaol iawn wrth i Dunfermline gael gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Hearts ym Mhencampwriaeth yr Alban ddydd Sadwrn.

Roedd hi’n benwythnos trydedd rownd Cwpan yr Alban hefyd. Nid oedd Ash Taylor a Ryan Hedges yn nhîm Aberdeen yn Dumbarton ond dechreuodd Christian Doidge i Hibs yn erbyn Queen of the South nos Lun gan sgorio dwy yn y fuddugoliaeth o dair i un.

Gorffen yn gyfartal, dwy gôl yr un, a wnaeth hi yn y gêm ddarbi rhwng Torino a Juventus yn yr Eidal nos Sadwrn. Ac ar ôl methu gemau Cymru unwaith eto gydag anaf arall, roedd Aaron Ramsey yn ddigon iach i ddod oddi ar y fainc ar gyfer ugain munud olaf y gêm hon. Cyfleus iawn.

Yng Nghroatia, eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Robbie Burton i Dinamo Zagreb yn Sibenik ond cafodd Dylan Levitt chwarter awr oddi ar y fainc i NK Istra yn erbyn Osijek.

Ac yn dilyn y ffrae ddiweddar rhwng Cymru a St. Pauli dros James Lawrence, fe fethodd yr amddiffynnwr gêm ei glwb yn erbyn Eintracht Braunschweig nos Lun oherwydd salwch.

James Lawrence

 

Gwilym Dwyfor