Mae prif dîmau pêl-droed Cymru yn wynebu gêmau pwysig heddiw.

Yn y bencampwriaeth, bydd Abertawe yn chwarae gartref yn erbyn Preston North End.

Mae’r Elyrch yn bedwerydd yn y tabl ac yn anelu at esgyn i’r Uwch Gynghrair.

Mae Caerdydd hefyd – sydd yn yr wythfed safle – hefyd yn gobeithio esgyn i’r Uwch Gynghrair ac mae nhw oddi cartref yn erbyn Sheffield Wednesday ar gae Hillsborough.

Gêm gartref sydd gan Casnewydd yn erbyn Bolton Wanderers tra mae Wrecsam hefyd gartref yn erbyn Torquay yn y gynghrair Vanarama.