Mae pencampwr y byd Gerwyn Price wedi gorfod tynnu’n ôl o Uwch Gynghrair Unibet ô.

Roedd y Cymro 36 oed i fod i wynebu Gary Anderson heno (nos Lun) gan ailadrodd rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd ym mis Ionawr.

Bydd James Wade yn cymryd lle Price yn y twrnament yn Arena Marshall ym Milton Keynes.

Profwyd yr holl chwaraewyr a swyddogion pan gyrhaeddon nhw cyn y digwyddiad.

Negyddol

Profodd Price ganlyniad positil, ac mae’r Professional Darts Corporation wedi cadarnhau y bydd yn dychwelyd i’w gartref yn Markham, De Cymru, i hunanynysu.

Pencampwr Agored y DU Wade yw’r chwaraewr uchaf ei safle nesaf ac roedd yn Milton Keynes wrth gefn.

Bydd yn chwarae yn erbyn Anderson yn y gêmau agoriadol heddiw (dydd Llun y Pasg) cyn chwarae pencampwr y byd 2018 Rob Cross nos yfory (nos Fawrth).

Dywedodd y PDC fod yr holl chwaraewyr a swyddogion eraill a brofwyd ddydd Sul wedi cael canlyniadau negyddol.