Mae’r ffaith fod Clwb Pêl-droed Abertawe’n datblygu chwaraewyr ifainc y dyfodol yn argoeli’n dda nid yn unig i’r clwb ond i’r tîm cenedlaethol hefyd, yn ôl pennaeth Academi’r Elyrch.
Fe fu Mark Allen yn siarad â golwg360 wythnosau’n unig ar ôl iddo fe gael ei benodi i olynu Nigel Rees yn bennaeth ar Academi’r clwb.
Ymhlith y Cymry sydd wedi torri’u cwys yn yr Academi dros y degawd diwethaf mae Connor Roberts, Ben Cabango, Joe Rodon, Daniel James a Ben Davies – ac mae llawer iawn mwy ohonyn nhw hefyd.
Mae’r chwaraewyr hynny wedi cyfrannu at lwyddiant Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n cynnwys cyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016 a chymhwyso ar gyfer yr Ewros y tro hwn hefyd.
Roedd pryderon am is-raddio’r Academi o ganlyniad i’r gwymp o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth, ond mae Mark Allen yn dweud nad yw hynny’n broblem fawr i’r clwb yn sgil yr enw da sydd ganddyn nhw eisoes am fagu doniau’r genhedlaeth nesaf.
Doedd hi’n sicr ddim yn broblem wrth ddenu Mark Allen, un sy’n enedigol o Gaerdydd ac sydd wedi bod yn bennaeth academi Manchester City ac yn Gyfarwyddwr Pêl-droed Glasgow Rangers yn ystod ei yrfa, cyn dychwelyd i fyw i Lanharan ger Pen-y-bont ar Ogwr.
‘Byddwn ni’n denu talent’
“O ran denu chwaraewyr at yr Academi, tra bod chwaraewyr eisiau sicrhau ein bod nhw’n dod yn rhan o’r system a’r awyrgylch iawn, mae’r ffaith fod gyda ni record dda, os liciwch chi, wrth ddyrchafu chwaraewyr ifainc o fewn y system – mae Ben [Cabango] wedi chwarae’n rhyngwladol am y tro cyntaf, mae Connor [Roberts] wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol, mae gyda ni chwaraewyr sydd wedi gwthio’u ffordd drwodd i amgylchfyd Cymru o’r tîm dan 21 a chwaraewyr yn dod i mewn y tu ôl iddyn nhw – mae’r cyfan yn argoeli’n dda i bêl-droed Cymru ar y cyfan,” meddai Mark Allen wrth golwg360.
“Ond hefyd, dw i’n credu fod hwn yn lle sy’n denu doniau o’r tu allan hefyd, ac roedd hynny fwy na thebyg yn un o’r pryderon o’r blaen o ran categoreiddio – a fydden ni’n gallu denu talent?
“Dw i’n grediniol, os yw eich system a’ch proses a’ch llwybr yn iawn, fe fyddwch chi’n denu talent.”
Gyda’r Elyrch yn gwthio am le yn yr Uwch Gynghrair eto, mae’n dweud bod hynny hefyd yn helpu’r clwb wrth iddyn nhw geisio denu doniau’r dyfodol i chwarae yn yr Academi.
“Dw i’n credu y byddai pob plentyn eisiau’r cyfle i chwarae yn yr Uwch Gynghrair, felly ie, dw i’n credu y byddai mynd i fyny i’r Uwch Gynghrair yn hwb enfawr o ran hynny,” meddai.
“Ond fel dw i’n ei ddweud, mae unrhyw beth sy’n ychwanegu gwerth dros wrthwynebydd, os liciwch chi, yn mynd i helpu.”