Mae’r Athro Laura McAllister yn dweud bod angen “cydbwysedd gofalus” rhwng buddiannau’r clybiau mawr a’r cyrff llywodraethu, wrth iddi geisio ennill sedd ar Gyngor FIFA.

Y Gymraes, oedd wedi ennill 24 o gapiau dros ei gwlad, yw dirprwy gadeirydd pwyllgor merched UEFA, a hi fyddai’r cynrychiolydd benywaidd cyntaf ar y corff llywodraethu.

Bydd yr etholiad yn cael i gynnal yn ddiweddarach y mis yma.

Daw manylion am ei maniffesto ar ddiwedd wythnos pan gafodd cynlluniau i ddiwygio Cynghrair y Pencampwyr eu gohirio a hynny, mae’n debyg, wrth i rai o aelodau amlycaf Cymdeithas Clybiau Ewrop geisio mwy o reolaeth fasnachol dros y gystadleuaeth ar ei newydd wedd.

“Fe fydd angen cydbwysedd gofalus bob amser rhwng dymuniadau’r clybiau mwyaf a rôl hanfodol UEFA a FIFA yn yr hirdymor, yn enwedig pan ddaw i yrru datblygiad pêl-droed ehangach, meithrin y gamp yn ei holl ffurfiau a sicrhau bod pêl-droed yn cyffwrdd ac yn cyfoethogi pob cymuned,” meddai.

“Byddaf bob amser yn amddiffyn rôl ein cymdeithasau sy’n aelodau a’r rhan unigryw maen nhw’n ei chwarae ym mhêl-droed Ewrop – ar lawr gwlad, wrth ddatblygu ac mewn cystadlaethau a pherfformiad – tra hefyd yn gwerthfawrogi’r rôl allweddol mae ein prif glybiau’n ei chwarae o fewn y pyramid pêl-droed.

“Mae gwell cydbwysedd yn dda i gefnogwyr, mae’n dda i bartneriaid masnachol ac mae’n dda i chwaraewyr a’r sawl maen nhw’n eu hysbrydoli.

“Dyna pam fy mod yn cefnogi’n llwyr weledigaeth UEFA i greu a chynnal cydbwysedd cystadleuol i dyfu ein gêm.”

Mwy o gydbwysedd rhwng dynion a menywod…

Mae Laura McAllister eisoes wedi trafod yr angen am fwy o gydbwysedd rhwng gêm y dynion a’r menywod ar lefel ryngwladol.

“Fel cyfandir, ac fel conffederasiwn, rydyn ni ond mor gryf â’n dolen gwannaf,” meddai wrth y Press Association fis diwethaf.

“Mae angen i ni feithrin gêm y menywod, a gêm y dynion, yn y gwledydd llai yn ogystal â’r rhai mawr.

“Mae yna wledydd yn UEFA ar hyn o bryd nad oes ganddyn nhw dîm A y merched, yn syml iawn, ac sydd heb gyflwyno tîm ‘A’ merched yng nghystadlaethau UEFA, a sawl un sydd heb yr adnoddau i gofrestru tîm dan 19 a thîm dan 17, felly mae’n rhaid i ni gael y llwybr yn iawn.”

… a’r timau bach a mawr

Mae hi hefyd yn galw am fwy o gydbwysedd rhwng y timau mawr a bach, gan ddweud bod canlyniadau annisgwyl yn gallu digwydd weithiau.

Mae’r rhain yn cynnwys Macedonia yn curo’r Almaen a Lwcsembwrg yn trechu Gweriniaeth Iwerddon.

Ac mae hi hefyd yn galw am werthu’r hawliau darlledu ar gyfer Cwpan y Byd y dynion a’r merched ar wahân “er mwyn cael y gwerth gorau ar gyfer yr hawliau hynny”.

Bydd Laura McAllister yn herio Evelina Christillin o’r Eidal am sedd ar Gyngor FIFA ar Ebrill 20.

Mae tri dyn yn y ras i fod yn ddirprwy lywydd dynion FIFA – David Martin o Iwerddon, Michael Mulraney o’r Alban a Kieran O’Connor o Gymru.