Cafodd merched rygbi Cymru grasfa o 53-0 yn Vannes neithiwr (nos Sadwrn, Ebrill 3), yng ngêm gynta’r prif hyfforddwr Warren Abrahams wrth y llyw.

Sgoriodd yr asgellwraig Caroline Boujard hatric o geisiau o fewn chwarter awr i’r gic gyntaf, wrth i’r Ffrancwyr groesi’r llinell gais saith gwaith yn Stade de la Rabine.

Croesodd hi am y tro cyntaf ar ôl dwy funud, gyda Pauline Bourdon yn trosi’r tri chais ac yn ychwanegu triphwynt i roi ei thîm ar y blaen o 24-0.

Sgoriodd Agathe Sochat drosgais cyn yr egwyl i’w gwneud hi’n 31-0.

Croesodd Emeline Gros ddwywaith yn yr ail hanner cyn i Emilie Boulard a Laure Touye sgorio’n hwyr i gau pen y mwdwl ar y canlyniad.

Gyda’r gystadleuaeth wedi’i hollti’n ddwy eleni, bydd Cymru’n wynebu Iwerddon yn eu gêm nesaf.