Mae’r gêmau ar gyfer ail hanner Tymor Uwch JD Cymru 2020/21 wedi’u cyhoeddi.

Yn dilyn cadarnhad yn ystod diwrnod olaf Cam Un bod Penybont a Caernarfon wedi sicrhau eu lleoedd yng Nghynhadledd y Bencampwriaeth, mae dyddiadau’r gêmau wedi cael eu rhyddhau am ail hanner y tymor.

Bydd gêm gyntaf Anthony Limbrick fel rheolwr y Seintiau Newydd yn cael ei chynnal ar Ebrill 10, pan fydd y Seintiau yn teithio i’r Bala ar gyfer y gêm gyntaf yng Nghynhadledd y Bencampwriaeth.

 

 

Ar Fai 1, bydd y Seintiau Newydd yn teithio i stadiwm Glannau Dyfrdwy i wynebu Cei Connah.

Ar ddiwrnod olaf y tymor, mae’r Seintiau Newydd yn croesawu’r Bala, tra bydd Cei Connah yn teithio i Benybont ar ddiwrnod mawr pan benderfynig dynged tlws Uwch Gynghrair JD Cymru.

Yn y frwydr dros y 3ydd safle, sydd bellach yn safle Ewropeaidd awtomatig y tymor hwn, gall cefnogwyr ystyried gêmauy Bala ar Ebrill 25 a’r Barri ar Mai 1 fel dyddiadau allweddol wrth ragweld pwy fydd wedi cyrraedd y safleoedd pwysig.

Bydd Aberystwyth a’r Drenewydd yn ystyried eu gêmau yn erbyn Sir Hwlffordd fel cyfleoedd delfrydol i gau’r bwlch rhyngddyn nhw a’r Adar Gleision mewn ymgais i sicrhau lle yn y gêmau Ewropeaidd tuag at ddiwedd y tymor.