Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod dwy farwolaeth yn rhagor yn gysylltiedig â Covid-19 wedi’u cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf.

Cafodd 95 o achosion newydd o’r haint eu cadarnhau hefyd yn yr un cyfnod.

Daw hyn â nifer yr achosion yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 209,627 gyda’r 5,511 o farwolaethau,

Ni chafodd yr ystadegau dyddiol eu cyhoeddi ddoe (Dydd Gwener y Groglith) oherwydd ei bod yn ŵyl banc.

Mae cyfradd yr achosion ar gyfer 100,000 o bobl dros saith diwrnod wedi gostwng eto – o 35.0 i 34.0.

Mae 1,472,643 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19 erbyn hyn, a 463,445 wedi cael y cwrs llawn.

Roedd y ddwy farwolaeth ddiweddaraf o fewn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy’n gwasanaethu rhan helaeth o’r gorllewin.

O’r achosion newydd ddydd Gwener, roedd 29 yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, 14 yn ardal Caerdydd a’r Fro, a 12 yr un yn ardaloedd byrddau iechyd Cwm Taf a Bae Abertawe.