Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am “ailfeddwl” ar letygarwch awyr agored ar ôl rhagor o olygfeydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynulliadau mawr ledled Cymru.
O dan gynllun presennol Llywodraeth Cymru Llafur, ni fydd lletygarwch awyr agored yn ailagor yng Nghymru tan Ebrill 26, ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylid cyflymu hyn.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, Russell George: “Mae’n rhaid i weinidogion Llafur ailfeddwl am letygarwch awyr agored.
“Mae’r crynoadau enfawr rydyn ni’n eu gweld ledled Cymru yn dod â nifer o heriau nid yn unig yn y frwydr yn erbyn coronafeirws, o daflu sbwriel i ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Rheoli cwsmeriaid
“Mae’n mynd i fod yn fis hir iawn os oes gennym dywydd braf ac mae angen i weinidogion weld safleoedd trwyddedig awyr agored gyda’u cyfleusterau a phrofiad amrywiol fel rhan o’r ateb, nid y broblem.
“Rydym wedi gwneud cynnydd mawr o ran cyfraddau achosion a’r rhaglen frechu, a byddai’n drueni gweld y gwaith hwn yn cael ei ddadwneud â chynulliadau na ellir eu rheoli’n ddiogel ac yn effeithiol.
“Mae gan safleoedd trwyddedig Cymru brofiad helaeth o reoli cwsmeriaid ac maent wedi buddsoddi symiau sylweddol o arian i wneud eu cyfleusterau’n ddiogel rhag Covid.
“Gadewch i ni ymddiried mewn busnes a gadewch i ni sicrhau ein bod yn parhau ar y llwybr o ailagor Cymru mewn modd diogel a hylaw.”