Bydd FIFA yn cynnal etholiad fis nesaf i benderfynu pwy fydd yn eistedd ar y cyngor sy’n rheoli’r gêm yn rhyngwladol. A bydd un ymgeisydd yn dod o Gymru. Mae Laura McAllister yn sefyll yn erbyn Evelina Christillin o’r Eidal am un o’r chwe sedd ar y cyngor sydd wedi cael eu cadw ar gyfer menywod. Hwn fydd yr ail dro i Laura ymgeisio ar ôl iddi gael ei hatal rhag sefyll gan reoliadau technegol yn 2016. Ma