I’r papurau tabloid, sioe sebon ydi hi. A nhwthau yn y gynulleidfa ac yn rhan o’r ddrama. Ond, mewn gwirionedd, mae yna arwyddocâd llawer dyfnach i Y Cyfweliad Mawr.

Tra bydd y papurau bach yn trïo dyfalu pwy ddywedodd be ac wrth bwy, a phwy sydd yng ngwddw pwy arall, mae’r stori go-iawn yn un ddyfnach a llawer ehangach.