Fe fydd tîm pêl-droed Caerdydd yn awyddus i daro’n ôl ar ôl colli o 5-0 yn erbyn Sheffield Wednesday ganol yr wythnos, wrth iddyn nhw groesawu Blackburn i’r brifddinas heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 10).

Ond mae’r Adar Gleision yn debygol o fod heb eu capten Sean Morrison, sy’n parhau i wella o anaf i’w goes, tra bod Jordi Osei-Tutu a Lee Tomlin allan hefyd.

Mae Joel Bennett a Joel Bagan allan o hyd, ond mae Josh Murphy yn dychwelyd ar ôl gwella o salwch, tra bod Perry Ng hefyd yn holliach.

Bydd yr ymwelwyr heb Joe Rankin-Costello sydd ag anaf i’w goes, tra bod disgwyl i Joe Rothwell fod yn barod i chwarae ar ôl cael ei anafu yn y gêm yn erbyn Bournemouth dros benwythnos y Pasg.

Mae chwech allan o’r naw gêm diwethaf rhwng y ddau dîm wedi gorffen yn gyfartal, gyda’r ornest ddiwethaf yn Blackburn yn gorffen yn gyfartal ddi-sgôr.

Dydy Blackburn ddim wedi ennill dwy gêm oddi cartref yn erbyn Caerdydd ers 1985, ac mae Blackburn bellach heb fuddugoliaeth mewn chwe gêm gynghrair.

Mick McCarthy eisiau cryfhau

“Pan ydych chi ar y rhediad gwych hwnnw, mae popeth fel pe bai’n euraid,” meddai Mick McCarthy, rheolwr Caerdydd.

“Ond nid i fi, gallwn i weld llefydd i gryfhau o hyd, beth allai’r chwaraewyr ei wneud yn well.

“Ond mae’r rhediad a’r canlyniadau gwael yn ychwanegu at hynny.

“Mae pawb yn dechrau edrych ac yn beirniadu wedyn ond hyd yn oed wedyn, mae’n rhaid i chi edrych ar y pethau da hefyd.”