Sgoriodd Jamal Lowe ddwy gôl – ei goliau cyntaf ers 17 o gemau – wrth i dîm pêl-droed Abertawe guro Millwall o 3-0 yn y Den, gydag Andre Ayew yn sgorio’r llall.

Roedd yr Elyrch wedi colli pedair gêm yn olynol cyn heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 10), sydd wedi bod yn ergyd i’w gobeithion o ddyrchafiad awtomatig, gyda deg pwynt bellach yn eu gwahanu nhw yn y trydydd safle a Watford sy’n ail.

Aeth yr Elyrch ar y blaen ar ôl 15 munud wrth i Ayew rwydo’i bymthegfed gôl y tymor hwn.

Daeth degfed gôl Lowe ar ôl i Wayne Routledge osod y bêl mewn gofod ar ôl curo’r amddiffyn, ac fe ddaeth ei unfed ar ddeg yn niwedd y gêm gydag ergyd gelfydd i gornel ucha’r rhwyd.

Hon oedd pedwaredd llechen lân ar bymtheg yr Elyrch y tymor hwn, ac fe ddaeth ar ôl i Kyle Naughton a Ryan Bennett gael eu ddewis yn y cefn yn lle Connor Roberts a Ben Cabango, oedd ar y fainc.