Daeth trydydd diwrnod gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley i ben yn gynnar heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 10) yn sgil eira trwm yn Leeds.

Roedd awr a hanner o gawod eira y naill ochr i’r egwyl am ginio, gyda dim ond 32 o belawdau wedi’u bowlio, sy’n amharu’n sylweddol ar obeithion Morgannwg o ennill y gêm.

Roedd y sir Gymreig yn 68 am bedair ar ddechrau’r dydd, ac roedden nhw wedi cyrraedd 161 am bedair erbyn amser cinio – blaenoriaeth o 298 – o ganlyniad i bartneriaeth ddi-guro rhwng Billy Root a’r capten Chris Cooke.

Manylion y dydd

Roedd Swydd Efrog heb ddau fowliwr cyflym, Ben Coad a Matthew Fisher, ar ddechrau’r diwrnod o ganlyniad i anafiadau, gyda dim ond Steve Patterson a Duanne Olivier ar gael.

Roedd Coad eisoes wedi cipio saith wiced yn y gêm, gan gynnwys tair ar ddechrau’r ail fatiad i adael Morgannwg yn 29 am bedair cyn eu hadferiad.

Ychwanegodd Root a Cooke 93 mewn 32 o belawdau i gynyddu eu partneriaeth i 132.

Roedd Root heb fod allan ar 77 erbyn amser cinio, gan gyrraedd ei hanner canred oddi ar 125 o belenni, ac fe gyrhaeddodd Cooke yr un garreg filltir oddi ar 130 o belenni.

Yn dilyn archwiliad o’r cae am oddeutu 2.30, daeth y chwarae i ben ryw awr yn ddiweddarach.

Adroddiad o’r ail ddiwrnod

Adroddiad o’r diwrnod cyntaf