Ar ôl i Abertawe guro Millwall o 3-0 yn gynharach heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 10), gorffennodd Caerdydd yn gyfartal 2-2 gartref yn erbyn Blackburn, tra bod Wrecsam wedi cael crasfa o 3-0 gartref yn erbyn Stockport.

Roedd yr Adar Gleision ar y blaen gyda munud o’r gêm yn weddill yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ond fe adawon nhw i’r fantais lithro.

Aethon nhw ar y blaen drwy ergyd bwerus Will Vaulks ar ôl 26 munud ond roedd y sgôr yn gyfartal cyn yr egwyl, wrth i Adam Armstrong rwydo yn dilyn ymgais eithaf gwan gan y golwr Alex Smithies.

Tarodd yr ymwelwyr y postyn dair gwaith yn yr ail hanner cyn i’r eilydd Joe Ralls roi’r Adar Gleision ar y blaen eto ar ôl 69 munud.

Ond daeth y gôl dyngedfennol yn hwyr yn yr ornest, gydag Armstrong yn canfod ei hun yn y cwrt cosbi i gipio’r pwynt.

Mae Caerdydd yn dal yn wythfed yn y gynghrair, naw pwynt islaw’r safleoedd ail gyfle.

Siom i Wrecsam

Rhwydodd Alex Reid a John Rooney yn erbyn eu hen glwb i roi hwb i obeithion Stockport o ennill dyrchafiad, ac ergyd i obeithion Wrecsam.

Sgoriodd Reid ddwy gôl yn yr hanner cyntaf i gosbi’r tîm y treuliodd e gyfnod ar fenthyg gyda nhw yn 2017.

Ychwanegodd Rooney gic o’r smotyn yn yr ail hanner ar ôl i Macauley Southam-Hales gael ei lorio gan Reece Hall-Johnson ar ôl 69 munud.

Mae Wrecsam wedi colli tair gêm o’r bron ac maen nhw’n wythfed, dri phwynt islaw’r safleoedd ail gyfle, tra bod Stockport bellach yn ddi-guro mewn wyth gêm ac yn bedwerydd yn y tabl.

Pwynt i Gasnewydd neithiwr

Neithiwr (nos Wener, Ebrill 9), roedd gêm gyfartal 1-1 i Gasnewydd yn erbyn Mansfield.

Aeth yr Alltudion ar y blaen yn yr ail hanner drwy ergyd troed chwith y capten Joss Labadie.

Ond chwe munud cyn y diwedd, yn dilyn cyfnod o bwyso, fe wnaeth Tyrese Sinclair gipio pwynt i’r tîm cartref.