Colli o 45-0 oedd hanes tîm rygbi merched Cymru yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd heno (nos Sadwrn, Ebrill 10).
Roedden nhw eisoes ar y blaen o 31-0 erbyn yr egwyl – yr un sgôr hanner amser â’r wythnos ddiwethaf pan heriodd Cymru Ffrainc.
Croesodd Eimear Considine a Beibhinn Parsons am ddau gais yr un, gyda Sene Naoupu hefyd yn croesi yn yr hanner cyntaf.
Roedd perfformiad Cymru rywfaint yn well yn yr ail hanner ond roedden nhw’n rhy bell ar ei hôl hi i daro’n ôl.
Croesodd Dorothy Wall a Hannah Tyrrell i gau pen y mwdwl ar y canlyniad i’r Gwyddelod.
Mae Cymru heb fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth ers curo’r Gwyddelod yng ngêm ola’r gystadleuaeth yn 2019, ac mae’n golygu eu bod nhw wedi colli eu dwy gêm eleni yn dilyn y golled o 53-0 yn Ffrainc yr wythnos ddiwethaf.
Bydd pryderon gan Gymru yn dilyn anaf i goes y capten Siwan Lillicrap, oedd wedi gorfod gadael y cae cyn diwedd y gêm.
Bydd Cymru’n herio naill ai’r Alban neu’r Eidal yn y gêm derfynol am y pumed safle.