Aberystwyth 1-2 Y Drenewydd

Cododd y Drenewydd dros Aberystwyth yn y tabl gyda buddugoliaeth dros eu cyd-ganolbarthwyr ar Goedlan y Parc nos Wener.

Y tîm cartref a aeth ar y blaen yng ngêm gyntaf yr hanner gwaelod wedi’r hollt ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl gyda dwy gôl hwyr.

Ofori ac Evans eto

Roedd pethau’n edrych yn addawol i’r tîm cartref ar hanner amser wedi i’r capten, Marc Williams, eu rhoi ar y blaen toc cyn yr egwyl gyda pheniad rhydd o gic gornel.

Mae goliau Tyrone Ofori a Jordan Evans wedi bod yn ganolog yn adfywiad diweddar y Drenewydd a’r ddau hynny a oedd yn gyfrifol am gipio’r tri phwynt o afael Aber yn y gêm hon.

Unionodd Ofori gydag ychydig dros chwarter awr yn weddill cyn i Evans ei hennill hi yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Ond doedd gan Aber neu ond nhw eu hunain i’w beio am gôl fuddugol Evans. Pasiodd Dan Cockerline y bêl yn syth iddo yng nghanol cae fel pe bai’n un o’i gyd chwaraewyr ac fe ddylai Alex Pennock fod wedi gwneud yn well ar ôl cael llaw i ergyd Evans o du allan i’r cwrt cosbi.

Mae’r canlyniad yn codi’r Robiniaid dros Aberystwyth i’r wythfed safle yn y tabl.

 

*

 

Caernarfon 0-1 Y Barri

Roedd gôl hwyr Curtis Jemmett-Hutson yn ddigon i’r Barri gipio’r tri phwynt yn erbyn Caernarfon ar yr Oval ddydd Sadwrn.

Bydd y ddau dîm yma yn brwydro gyda’r Bala a Phenybont am y trydydd safle holl bwysig a ddaw â phêl droed Ewropeaidd iddynt heb orfod dibynnu ar y gemau ail gyfle rhwng nawr a diwedd y tymor. Mae’r canlyniad hwn yn rhoi hwb enfawr i obeithion y Barri yn y frwydr honno ond yn rhoi mynydd i’w ddringo i Gaernarfon.

Gem arall gan Jem

Jemmett-Hutson a enillodd gystadleuaeth gôl y mis Sgorio ar gyfer mis Mawrth gyda’i gôl unigol wych yn erbyn y Bala. Ac er nad oedd ei gôl fuddugol yn y gêm hon cweit cystal, roedd hi’n ymdrech fach ddigon taclus chwarae teg, yn llithro’r bêl i’r gornel isaf ar y cynnig cyntaf o ochr y cwrt cosbi yn dilyn gwaith creu Jordan Cotterill.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Barri yn bedwerydd a Chaernarfon yn chweched ond dim ond tri phwynt sydd bellach yn gwahanu’r Barri a ‘r Bala yn y trydydd safle.

 

*

 

Cei Connah 0-2 Pen-y-bont

Daeth canlyniad y penwythnos yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy brynhawn Sadwrn wrth i Gei Connah golli gartref am y tro cyntaf ers dros ddwy flynedd.

Mawrth 2019 a oedd hi pan gollodd tîm Andy Morrison ar eu cae eu hunain ddiwethaf ond daeth goliau Kane Owen a Kostya Georgievsky â’r rhediad arbennig hwnnw i ben.

Amddiffyn gwallus

Daeth gôl Owen o’r smotyn hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf yn dilyn camgymeriad gwael gan Danny Homles. Gwnaeth smonach o’i ymdrech i glirio’r bêl cyn ildio’r drosedd ar Ben Ahmun yn y cwrt cosbi.

Rhwydodd Owen yn hyderus o ddeuddeg llath cyn rhedeg at y lluman cornel i ddathlu, er nad oedd na chefnogwr na chamera yno!

Camgymeriad amddiffynnol a arweiniodd at gôl Georgievsky ddeuddeg munud o’r diwedd hefyd wrth i’r ymosodwr bach guro’i ddyn yn rhy rhwydd o lawer yn dilyn tafliad gobeithiol o’r asgell dde.

Gwnaeth Georgievsky y gweddill yn effeithiol iawn ac os oedd ei gôl yn un well nac un Owen, roedd ei ddathliad yn sicr yn fwy trawiadol, gymnasteg o’r radd flaenaf!

Amseru Gwael

Mae amseru’r golled gartref brin hon yn arbennig o anffodus i Gei Connah gan ei bod yn caniatáu i’r Seintiau gymryd eu lle ar frig y tabl.

Ond ni fydd Morrison a’i dîm yn poeni’n ormodol ar hyn o bryd gan mai gwahaniaeth goliau’n unig sydd yn gwahanu’r ddau dîm, gyda dwy gêm yn erbyn ei gilydd eto i ddod cyn diwedd y tymor.

 

*

 

Derwyddon Cefn 2-1 Hwlffordd

Roedd buddugoliaeth brin i’r Derwyddon Cefn wrth iddynt groesawu Hwlffordd i’r Graig ddydd Sadwrn.

Roedd hi’n ymddangos fod yr ymwelwyr wedi cipio pwynt gyda gôl Danny Williams cyn i Charley Edge ddwyn y tri phwynt yn ôl i’r tîm cartref ym munud olaf y gêm.

Flint yn rhoi Cefn ar y blaen

Y Fflint yw un o elynion agosaf y Derwyddon y tymor hwn, yn ddaearyddol ac yn y tabl, gyda’r ddau dîm yn brwydro tua’r gwaelodion.

Ond roedd Cefn yn ddiolchgar iawn i Flint yn y gêm hon, Niall Flint hynny yw, wedi iddo eu rhoi ar y blaen yn gynnar yn y gêm, yn gorffen ar y cynnig cyntaf o groesiad un o gefnwyr mwyaf dibynadwy’r gynghrair, Naim Arsan.

Sawl Edge sydd mewn triongl?

Unionodd Williams bethau gyda chwarter awr i fynd yn dilyn llanast llwyr yng nghwrt cosbi’r Derwyddon. Methodd yr amddiffynnwr â chlirio’r bêl gyda sawl pheniad gwan ac roedd Michael Jones yn wan yn y gôl.

Cafwyd rhagor o amddiffyn chwerthinllyd ar gyfer gôl fuddugol Edge. Roedd llinell amddiffynnol Hwlffordd yn debycach i driongl, sydd ddim yn ddelfrydol ar gyfer trap camsefyll, yn enwedig pan fo dwy gongl i’r triongl hwnnw’n sefyll yn hanner y gwrthwynebwyr!

Roedd gan Edge ddigon o waith i’w wneud wedi hynny i fod yn deg ac fe wnaeth hwnnw mewn steil.

Nid yw’r canlyniad yn newid dim yn y tabl wrth i Cefn aros ar y gwaelod a Hwlffordd ar frig yr hanner isaf, yn y seithfed safle.

 

*

 

Y Fflint 2-0 Met Caerdydd

Cododd y Fflint dros Fet Caerdydd yn y tabl gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim ar Gae’r Castell ddydd Sadwrn.

Mae tymor y Myfyrwyr wedi dadfeilio’n raddol iawn ac maent bellach yn y ddau safle isaf yn dilyn y golled ddiweddaraf hon.

Rhoddodd Connor Harwood y tîm cartref ar y blaen toc cyn hanner amser cyn i Callum Bratley ddyblu’r fantais gyda gôl flêr o gig gornel ddeunaw munud o’r diwedd.

Myfyrwyr methu sgorio

Sgorio yw problem fawr Met y tymor hwn. Dim ond deunaw gwaith y maent wedi rhwydo trwy gydol y tymor ar gyfartaledd o 0.8 gôl y gêm.

Sgoriwch ddwy yn eu herbyn felly ac rydych yn debygol iawn o ennill, hyd yn oed os ydych yn chwarae’r deuddeg munud olaf gyda deg dyn fel y gwnaeth y Fflint yn y gêm hon yn dilyn cerdyn coch Alex Jones.

 

*

 

Y Bala 0-1 Y Seintiau Newydd

Cafodd Anthony Limbrick y dechrau perffaith i’w gyfnod wrth y llyw gyda’r Seintiau Newydd gyda buddugoliaeth dros y Bala ar Faes Tegid yng ngêm fyw Sgorio nos Sadwrn.

Roedd gôl gynnar Ryan Brobbel yn ddigon i gipio’r tri phwynt a chodi’r Seintiau i frig y tabl.

Gôl gynnar a ‘G’day mate’

Un gŵr y mae’r Seintiau wedi ei fethu’r tymor hwn yw Brobbel. Mae’r chwaraewr creadigol wedi bod yn absennol gydag anaf am gyfnodau hir y tymor hwn ond hon a oedd ei bedwaredd gôl mewn tair gêm ers dychwelyd i’r tîm.

I Adrian Cieslewicz yr oedd y diolch am hon serch hynny gan mai ei rediad penderfynol ef i lawr y chwith a’i creodd hi wedi dim ond saith munud o chwarae.

Felly yr arhosodd hi wedi hynny wrth i’r Awstraliad, Limbrick, gael ‘g’day mate’ a chodi ei dîm newydd i frig y tabl wedi dim ond naw deg munud!

 

Gwilym Dwyfor