Mae Mick McCarthy, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud y byddai angen “cyfres annhebygol o ddigwyddiadau” er mwyn i’r Adar Gleision gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.
Daw ei sylwadau ar ôl i’w dîm orffen yn gyfartal 2-2 yn erbyn Blackburn ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 10).
Byddai buddugoliaeth wedi eu gadael nhw saith pwynt islaw’r safleoedd ail gyfle, ond fe wnaeth yr ymwelwyr unioni’r sgôr yn hwyr yn y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ac mae’r Gwyddel o Barnsley yn dweud na fu sôn am y gemau ail gyfle ers iddo fe gael ei benodi – a hynny’n fwriadol.
“Rydyn ni naw pwynt ar ei hôl hi gyda phum gêm yn weddill, felly byddai angen cyfres annhebygol o ddigwyddiadau,” meddai.
“Dw i’n gwybod ein bod ni wedi cael dechrau gwych pan ddes i i mewn.
“Roedd popeth yn mynd yn dda, ond do’n i ddim mor ffôl â chredu ein bod ni’n un o’r timau gorau yn y gynghrair.
“Roedden ni jyst yn cael un o’r rhediadau gorau yn y gynghrair.
“Dw i ddim yn gwybod am y canlyniadau eraill,” meddai ar ddiwedd y gêm.
“Ond ro’n i’n meddwl, hyd yn oed cyn heddiw, fod wyth pwynt ar ei hôl hi gyda chwe gêm yn weddill yn gyfres annhebygol o ddigwyddiadau.
“P’un a oedden ni wedi ennill ein holl gemau neu beidio, gall y timau eraill ennill pob un o’u rhai nhw.
“Y cyfan allwn ni ei wneud yw gofalu am ein gemau, ein perfformiadau a’n canlyniadau ni.”