Mae Clwb Criced Sain Ffagan wedi cadarnhau y bydd digwyddiad elusennol er cof am Tom Maynard, cyn-gricedwr Morgannwg, yn cael ei gynnal ar Fedi 10 eleni.

Bu’n rhaid canslo digwyddiad Ymddiriedolaeth Tom Maynard y llynedd o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19.

Bydd modd cynnal criced ar lawr gwlad eto yng Nghymru o Orffennaf 10, ac mae llacio’r cyfyngiadau’n golygu bod modd bwrw ymlaen gyda’r cynlluniau i gofio’r chwaraewr 23 oed fu farw yn 2012.

Ei dad Matthew yw prif hyfforddwr Morgannwg.

Y digwyddiad

Ar Fedi 10, fe fydd cinio tri chwrs ac adloniant yng Nghlwb Criced Sain Ffagan yng Nghaerdydd.

Bydd gêm griced yn cael ei chynnal wedyn rhwng Sain Ffagan a thîm o wahoddedigion Matthew Maynard.

Dywed y trefnwyr fod modd archebu lle drwy gysylltu â Jane John drwy e-bost: jane.john123@icloud.com.

Her Tri Chopa yn enw Tom Maynard yn dod i ben ar gopa’r Wyddfa

Dringwyr wedi codi i gopaon Ben Nevis, Scafell Pike a’r Wyddfa dros gyfnod o dridiau

Ymddiriedolaeth Tom Maynard yn rhoi cymorth i’r genhedlaeth nesaf

Noddi cwrs ar gyfer cricedwyr sydd newydd droi’n broffesiynol

Morgannwg: Tîm buddugol ’97 yn ail-uno yn enw Tom Maynard

Digwyddiad arbennig yn Sain Ffagan ym mis Awst

Taith feics yn codi dros £120,000 er cof am Tom Maynard

Yr ail daith ers marwolaeth y cricedwr ifanc o Gaerdydd yn 2012

Cynnal trydedd gêm goffa flynyddol Tom Maynard

Bu farw’r cricedwr 23 oed yn 2012

Cynnal gêm flynyddol i gofio am Tom Maynard

Tîm dethol Matthew Maynard yn herio Sain Ffagan

Ail ddawns flynyddol er cof am gricedwr

Ymddiriedolaeth Tom Maynard wedi codi £50,000 yn yr un digwyddiad y llynedd