Fe fydd y drydedd gêm griced flynyddol i gofio am Tom Maynard yn cael ei chynnal yng nghlwb criced Sain Ffagan heddiw.
Cafodd y digwyddiad blynyddol ei sefydlu yn dilyn marwolaeth y batiwr ifanc yn Llundain yn 2012.
Yn ystod ei yrfa fer, chwaraeodd Tom i Forgannwg cyn symud i Swydd Surrey.
Fe fydd tîm Sain Ffagan yn herio tîm o wahoddedigion ei dad, cyn-gapten a hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard mewn gornest ugain pelawd.
Ymhlith y sêr o’r byd criced fydd yn ymddangos mae Marcus Trescothick, Simon Jones, Andy Caddick, Steve Watkin a Jim Allenby.
Yn ymuno â nhw mae’r actor Charlie Dale a’r cyn-baffiwr Nicky Piper.
Roedd cyfle hefyd i aelod o’r cyhoedd gymryd rhan mewn ocsiwn am le yn nhîm Matthew Maynard, ac Andrew Collins o Glwb Criced Pontypridd sydd wedi hawlio’r lle hwnnw.
Mae’r gêm yn dechrau am 2.30, a £5 yw pris mynediad i oedolion. Fe fydd barbeciw a cherddoriaeth fyw yn ystod y dydd.
Bydd holl elw’r digwyddiad yn mynd at Ymddiriedolaeth Tom Maynard.