Mae gêm arbennig yn cael ei chynnal yng Nghlwb Criced Sain Ffagan yng Nghaerdydd heddiw, ychydig dros ddwy flynedd ers i’r cricedwr ifanc Tom Maynard farw.
Roedd Tom, mab cyn-gapten a chyn-hyfforddwr Morgannwg Matthew Maynard, yn 23 oed pan fu farw yn Llundain ar Fehefin 18, 2012 ac mae ganddo le arbennig o hyd ym meddyliau a chalonnau cefnogwyr y sir.
Cyn troi’n broffesiynol gyda Morgannwg, treuliodd Tom gryn dipyn o’i flynyddoedd yn hogi’i sgiliau gyda chlwb Sain Ffagan.
Bydd yr elw o’r ornest yn mynd i Ymddiriedolaeth Tom Maynard, gafodd ei sefydlu er mwyn helpu cricedwyr ifanc difreintiedig i ddatblygu eu gyrfaoedd fel cricedwyr.
Mae llu o enwogion o’r byd criced ac o fyd y campau wedi cadarnhau eu bod nhw’n chwarae, a’r prif atyniad fydd cyn-chwaraewr Swydd Gaerhirfryn a Lloegr, Andrew Flintoff.
Bu Flintoff yn weithgar gyda’r Ymddiriedolaeth fel noddwr ers ei sefydlu.
Ymhlith yr enwau eraill fydd yn ymddangos mae chwaraewyr Morgannwg Jacques Rudolph, Mark Wallace a Jim Allenby, a’r cyn-gricedwyr Simon Jones, Ian Harvey a Paul Prichard.
Mae disgwyl hefyd i’r cyn-chwaraewyr rygbi Nicky Robinson a Rhys Williams a’r paffiwr Joe Calzaghe ymddangos yn ystod y dydd.
Bydd tîm Matthew Maynard hefyd yn cynnwys y cricedwr o Bontypridd, Andrew Collins sydd wedi rhoi £500 i’r Ymddiriedolaeth yn dilyn ocsiwn am le i chwarae yn nhîm yr enwogion.
Mewn datganiad cyn y diwrnod, dywedodd Matthew Maynard: “Roedd y digwyddiad y llynedd yn hyfryd ond roedd y glaw yn rhwystredigaeth i ni, felly ry’n ni wir yn gobeithio am heulwen.
“Fel arfer mae Sain Ffagan wedi ein plesio ni gyda’u trefniadau ac fe fydd yn ddiwrnod i’w wir fwynhau.”
Bydd y belen gyntaf yn cael ei bowlio am 3 o’r gloch yn dilyn cinio arbennig yng nghwmni’r digrifwr Rod Woodward, ac fe fydd Robert Croft yn troi ei law at fod yn ocsiwniar.
Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn £5 i oedolion ond mae mynediad am ddim i blant, ac fe fydd barbeciw yn ystod y prynhawn.