Mae’r chwaraewr amryddawn o India’r Gorllewin, Darren Sammy wedi diolch i gefnogwyr Morgannwg yn dilyn cyfnod yng Nghymru’n chwarae yn y T20 Blast.

Ffarweliodd Sammy â Morgannwg nos Fercher wrth i’r Cymry golli o chwe rhediad yn erbyn Swydd Hampshire yn Stadiwm Swalec.

Daeth Morgannwg o fewn trwch blewyn o gipio’r fuddugoliaeth, diolch yn bennaf i bartneriaeth o 56 rhwng Sammy a Chris Cooke wrth iddyn nhw gwrso nod o 171.

Cyn dychwelyd i’r Caribî i arwain India’r Gorllewin mewn dwy gêm undydd yn erbyn Seland Newydd ac i chwarae i’r St Lucia Zouks yn Uwch Gynghrair y Caribî (CPL), mae Sammy yn ymddangos i dîm o enwogion y Lashings yn Llundain heddiw.

Mae carfan y Lashings hefyd yn cynnwys dau enw mawr arall yn hanes criced y Caribî sef Gordon Greenidge a Desmond Haynes.

Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod byr gyda Morgannwg, dywedodd Sammy wrth Golwg360: “Rwy wedi mwynhau fy amser yma. Mae’n le braf i chwarae criced – mae’r stafell newid yn wych, maen nhw’n grŵp gwych o fois ac fe fydden i’n croesawu’r cyfle i chwarae gyda nhw eto.

“Mae Caerdydd yn fy atgoffa i o chwarae yn St Lucia. Mae’r cefnogwyr yn enwedig wedi bod yn gefnogol. Er mod i ddim wedi chwarae yn y ffordd dw i’n gwybod ’mod i’n gallu, maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn gartref ac oddi cartref.

“Mae’r bobol yma ac yn y stafell newid yn fois gwych, ac mae wedi bod yn gyffrous iawn cael bod yn rhan o stafell newid Morgannwg. Mae Jim [Allenby] a Toby [Radford] a gweddill y bois wedi’i wneud e’n hawdd iawn i fi ffitio i mewn. Unwaith daw’r cyfle, fe fydda i’n dod nôl heb feddwl dwywaith.”

Er i gefnogwyr Morgannwg gael cyfle i weld ei ddoniau nos Fercher, mae ei berfformiadau yn y gemau blaenorol wedi bod ychydig yn siomedig, ac mae Sammy yn cyfaddef y gallai fod wedi perfformio’n well.

“Dw i ddim wedi mynd ati yn y ffordd orau bosib o ran fy mherfformiadau felly roedd yn gyfle olaf i fi ac ro’n i wir am roi buddugoliaeth i’r tîm. Es i allan i’r canol a chwarae yn fy ffordd fy hunan, gan geisio herio’r bowlwyr.

“Dw i wedi mwynhau’r profiad gwych o chwarae criced T20 i Forgannwg felly hoffen i ddiolch iddyn nhw’n bersonol am y cyfle i ddod i Gymru ac i Gaerdydd i arddangos fy sgiliau, a gobeithio y gwelwn ni fwy o hynny yn y dyfodol.”

Mae Morgannwg wedi colli pedair gêm yn olynol yn y T20 Blast, ond mae Sammy yn rhagweld llwyddiant i’r Cymry.

“Dwi’n hyderus y gall Morgannwg gyrraedd y chwarteri neu’r rowndiau cyn-derfynol, a gobeithio y bydd gyda fi wythnos i ddod nôl a pharhau gyda’r hyn dw i wedi dechrau gwneud yma.”

St Lucia a’r Caribî

Wrth ddychwelyd i St Lucia, fe fydd Sammy yn ail-ymuno ag un o fawrion Morgannwg, Matthew Maynard sy’n hyfforddi’r Zouks.

Wrth gyfeirio at ei berthynas gyda Maynard, dywedodd Darren Sammy wrth Golwg360: “Mae Matt yn foi gwych. Fe fydda i’n mynd adre’n fuan ac fe fydd e’n ymuno â fi cyn bo hir yn y gobaith o ennill y gystadleuaeth gyda’r Zouks.

“Mae gan Sammy gyswllt gyda Morgannwg. Dw i wedi bod yma a nawr bydd Matt gyda fi yn St Lucia felly mae popeth yn wych.

“Uwch Gynghair y Caribî yw’r gystadleuaeth T20 fwyaf cyffrous ar wyneb y ddaear. IPL yw’r mwyaf ond o feddwl am hwyl a chyffro, T20 y Caribî sydd orau.”

‘Boi ffein’

Os yw Morgannwg wedi creu argraff ar Darren Sammy, yna’n sicr mae Sammy wedi creu argraff ar Forgannwg.

Dywedodd is-hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft wrth Golwg360: “Yng ngêm ola Darren Sammy, o’n ni’n hapus i weld beth ma fe’n gallu neud.

“Ry’n ni’n gwybod fod llawer o dalent gyda fe ac mae’n anodd iawn cael llawer o amser i fod yn llwyddiannus pan y’ch chi’n dod mewn am chwech gêm.

“Ond heno ry’n ni wedi gweld beth mae’n gallu gwneud gyda’r bat. O’n ni wir moyn gweld mwy o bethau fel’na ond ’na fel mae pethau’n mynd.

“Ry’n ni’n gwybod fod e’n gallu gwneud jobyn dda ‘da’r bêl.

“Gobeithio yn y dyfodol os yw e’n gallu dod draw i chwarae i Forgannwg fod e’n gallu chwarae am fwy o amser i ni. Mae’n galed pan y’ch chi’n dod mewn am chwech gêm a mynd mas.

“Mae’n foi ffein, mae pawb yn y stafell newid yn lico fe ac mae e wedi cael amser braf, fi’n credu. Ond gyda’r talent sydd gyda fe, o’n i moyn tipyn bach mwy mas ohono fe ond ry’n ni moyn tipyn bach mwy mas o bawb.

“Mae llawer o brofiad gyda fe, mae e wedi chwarae ar y lefel uchaf dros y blynydde, wedi ennill Cwpan y Byd.

“Mae’n relaxed yn y stafell newid a gobeithio bod tipyn bach o hwnna’n gallu rwbio off ar y bois eraill. Ond gobeithio bod y dyfodol yn mynd i fod yn braf iawn iddo fe.”