Mae’r corff Beicio Cymru wedi cadarnhau na fydd Becky James yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow fis nesaf oherwydd iddi ddiodde’ anaf.
Dywedodd Becky James: “Fel y cyhoeddwyd heddiw, yn anffodus byddaf yn tynnu’n ôl o’r garfan Tîm Seiclo Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad mis nesaf.
“Y rheswm am hyn yw anaf i fy mhen-glin a gafwyd yn dilyn cyfnod o orffwys meddygol.”
Y Gymraes 22 mlwydd oed oedd un o brif obeithion Cymru o ennill medal yn Glasgow ar ôl iddi ennill medal arian ac efydd yn Delhi ym 2010.
“Rwy’n hynod o siomedig na fyddaf yn cystadlu yn Glasgow, yr wyf yn gobeithio bod yn Glasgow yn cefnogi’r tîm ac yn dymuno pob lwc iddyn nhw,” ychwanegodd James.
Dywedodd Matt Cosgrove, Cyfarwyddwr Perfformiad Beicio Cymru: “Mae iechyd yr athletwyr yn flaenoriaeth i ni. Er ei bod yn siomedig y bydd Becky yn absennol o garfan Tîm Cymru yn Glasgow’r haf hwn, mae’n bwysig bod Becky bellach yn gofalu am ei hun.”
Mae Chwaraeon Cymru wedi gosod y targed o 27 medal yn y Gemau sy’n dechrau ar Orffennaf 23.