Rhys Jones
Rhys Jones sy’n edrych nôl ar yr eiliadau olaf poenus yn Ne Affrica…
Ar ôl i’r tîm rygbi cenedlaethol dderbyn tipyn o grasfa yn y prawf cyntaf yn Durban, roedd yna bryderon ymhlith y cefnogwyr am yr ail brawf yn Nelspruit.
Roedd llawer wedi meddwl y byddai’r tîm hyfforddi yn gwneud nifer o newidiadau, ond dim ond dau a gafwyd – y prop 21 oed Samson Lee yn disodli’r profiadol Adam Jones a Josh Turnbull yn y rheng ôl ar draul Aaron Shingler.
Tybed ai dyma ddiwedd gyrfa ryngwladol Adam Jones, a gafodd ei dynnu oddi ar y cae cyn diwedd hanner gyntaf y prawf cyntaf, neu a fydd yn brwydro i ennill ei le eto yn y tîm cenedlaethol ac ychwanegu at ei gant o gapiau?
Efallai mai’r syndod mwyaf oedd i’r mewnwr Mike Phillips gadw ei le ar ôl i fewnwr y Scarlets Gareth Davies ddod ymlaen fel eilydd yn y gêm gyntaf a gwneud dipyn o argraff. Heb amheuaeth mae Mike yn dipyn o ffefryn gyda Gatland.
Diffyg disgyblaeth
I fod yn deg fe ddechreuodd Cymru’r ail brawf yn llawer mwy hyderus a phenderfynol a rhoi dipyn o sioc i Dde Affrica drwy fynd 17-0 ar y blaen.
Da oedd gweld Cymru yn cadw’r bêl yn y dwylo llawer yn fwy yn y gêm hon, ac ni chafwyd cymaint o gicio gwael dibwrpas. Rhoddwyd y meddiant i ffwrdd yn llawer rhy aml yn y prawf cyntaf trwy gicio yn syth at chwaraewyr De Affrica.
Er mod i’n cydnabod bod Willie le Roux, cefnwr De Affrica, yn chwaraewr dawnus a pheryglus fe wnaeth Cymru wneud iddo edrych yn well chwaraewr nac ydyw yn y prawf cyntaf, wrth gicio yn syth eto a chaniatáu iddo wrth ymosod a rheoli’r gêm.
Heb amheuaeth roedd Cymru’n gryfach na’r Boks ymhob agwedd o’r gêm yn yr hanner cyntaf, ond fe wnaeth dwy garden felen o fewn eiliadau i’w gilydd tua diwedd yr hanner roi’r cyfle i’r tîm cartref sgorio 14 o bwyntiau.
Treuliodd Luke Charteris ddeng munud yn y gell cosb ar ddiwedd yr hanner gyntaf ar ôl troseddu wrth i Dde Affrica yrru ymlaen o’r llinell. O fewn eiliadau troseddodd y maswr Dan Biggar ac fel canlyniad dyfarnwyd gais cosb yn erbyn Cymru ac anfonwyd Biggar i’r gell cosb.
Diffyg disgyblaeth yn costio’n ddrud unwaith yn rhagor. Mae’n ddigon anodd chwarae yn erbyn De Affrica gyda phymtheg dyn, tasg amhosibl bron yw eu herio gyda dau chwaraewr oddi ar y cae.
Eiliadau poenus
Gyda 78 munud o’r gêm wedi ei chwarae roedd Cymru ar y blaen 30-24 ac o fewn munudau i greu hanes wrth guro De Affrica ar ôl ceisio gwneud hynny ers 50 o flynyddoedd. Wrth i’r chwiban olaf agosáu fe lwyddodd De Affrica i gael y bêl allan yn llydan i Hendricks a gurodd George North.
Wrth i Hendricks fynd am y gornel cafodd ei wthio yn anghyfreithlon dros yr ystlys gan Liam Williams. Y canlyniad fu i’r dyfarnwr roi cais cosb i Dde Affrica a chyfle i Morné Steyn drosi yn llwyddiannus o flaen y pyst a chipio’r fuddugoliaeth 31-30.
Rhaid gofyn a oedd George North wedi gwella’n llwyr ac wedi cryfhau digon ar ôl ei salwch i chwarae gêm ryngwladol o’r safon yma.
Er bod hwn yn berfformiad llawer gwell gan Gymru, colli fu’r hanes gyda diffyg disgyblaeth yn ildio dau gais cosb i’r tîm cartref.
Er mai colli’r ddwy gêm brawf fu’r hanes roedd yn braf gweld chwaraewyr ifanc fel Gareth Davies a Matthew Morgan yn camu’n hyderus i’r llwyfan rhyngwladol, a chwaraewr profiadol fel Matthew Rees yn mwynhau chwarae ar y safon yma ar ôl ei salwch.
Yn sicr fe welwyd digon o dystiolaeth yn ystod yr ail gêm brawf y bydd gan Gymru dîm digon addawol i gystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd.
Cofion hefyd at ganolwr ifanc dawnus y Gleision a Chymru, Owen Williams, a gafodd anaf difrifol wrth chwarae mewn gêm yn Singapore. Dymuniadau gorau iddo am adferiad buan a gobeithio y bydd e yn ôl yng nghrys y Gleision a Chymru yn fuan.