Geraint Thomas
Daeth y Cymro Geraint Thomas yn ail i Syr Bradley Wiggins mewn ras ‘time trial’ Prydeinig gafodd ei chynnal yng Ngwesty’r Celtic Manor ger Cansewydd ddoe.

Er gwaetha’r glaw fe lwyddodd Wiggins i gwblhau’r cwrs 25 milltir mewn 53 munud a 56 eiliad, a Geraint Thomas 68 eiliad y tu ôl iddo.

Yn ôl y Cymro does dim cywilydd mewn dod yn ail i Wiggins sy’n gyn-Bencampwr y Tour de France ac yn bencampwr Olympaidd.

“Mae’n un o’r goreuon yn y byd,” meddai Geraint Thomas am y Sais.

Fodd bynnag, er gwaethaf buddugoliaeth Wiggins yn y ras ddoe, mae tîm Sky wedi cadarnhau na fydd y Sais yn rhan o’u tîm ar gyfer y Tour de France eleni.

Fe fethodd Wiggins ras y llynedd oherwydd anaf ac yn ei absenoldeb fe enillodd Chris Froome y crys melyn i dîm Sky.

Froome fydd prif feiciwr y tîm eto eleni, ac yn absenoldeb Wiggins mae’n debygol y bydd gan Thomas ran allweddol i’w chwarae wrth geisio helpu’i gyd-feiciwr ennill am yr ail flynedd yn olynol.

Bydd Geraint Thomas yn seiclo eto ddydd Sul yn y ras ar y lôn i ganfod pencampwr Prydeinig y gamp honno.