Y newyddion drwg i wylwyr brwd Cwpan y Byd ydi fod tri chwarter o gemau Cwpan y Byd eisoes wedi cael eu chwarae.

Y newyddion da wrth gwrs ydi fod yn dal dros bythefnos ar ôl o’r twrnament, gyda’r gemau gorau eto i ddod!

Ddoe fe orffennwyd yr olaf o’r grwpiau, gyda’r UDA’n sicrhau eu lle yn y rownd nesaf er gwaethaf colli o 1-0 yn erbyn yr Almaen, sydd wedi ennill Grŵp G.

Thomas Muller sgoriodd unig gôl y gêm yn gynnar yn yr ail hanner, ac er bod yr Almaenwyr yn edrych yn gryfach fe roddodd yr Americaniaid frwydr dda iddyn nhw, gan bron a chipio pwynt ar y diwedd.

Roedd Ghana a Phortiwgal wedi gobeithio y byddai’r UDA yn colli er mwyn rhoi gobaith iddyn nhw gyrraedd y rownd nesaf, gydag enillwyr y gêm honno dal â gobaith.

Dim ond ennill oedd rhaid i Ghana wneud petai’r UDA yn colli, tra bod Portiwgal angen buddugoliaeth swmpus i sicrhau eu lle nhw.

Ond doedd yr un ohonyn nhw’n agos yn y diwedd. Fe aeth Portiwgal ar y blaen ar yr egwyl ar ôl i John Boye rwydo i’w gôl ei hun, cyn i Asamoah Gyan unioni’r sgôr yn yr ail hanner.

Seliodd gôl hwyr Cristiano Ronaldo fuddugoliaeth o 2-1 i Bortiwgal, ond fe fydd y ddau dîm nawr yn dychwelyd adref ar ôl ymgyrchoedd siomedig.

Algeria’n creu hanes

Gyda Gwlad Belg drwyddo eisoes, ac yn debygol o drechu De Corea i’w hanfon nhw adref, roedd llawer o’r sylw ar y gêm rhwng Algeria a Rwsia i weld pwy arall fyddai’n mynd drwyddo o Grŵp H.

Dim ond pwynt oedd ei angen ar yr Algeriaid, tra bod Rwsia angen buddugoliaeth er mwyn sicrhau ei lle nhw yn yr 16 olaf.

A doedd pethau ddim yn edrych yn grêt iddyn nhw chwaith, ar ôl i Alexandr Kokorin benio gôl gynnar hyfryd i Rwsia i’w rhoi ar y blaen.

Ond roedd Algeria’n gyfartal ar ôl awr wrth i Islam Slimani sgorio, ac er gwaethaf ymdrechion hwyr Rwsia fe arhosodd y sgôr yn 1-1.

Llwyddodd Gwlad Belg i drechu De Corea o 1-0 hefyd diolch i gôl hwyr Jan Vertonghen er eu bod lawr i ddeg dyn, ac felly Algeria gipiodd yr ail safle – y tro cyntaf yn eu hanes iddyn nhw gyrraedd y rownd nesaf yng Nghwpan y Byd.

Ac fe fydd Rwsia’n sicr yn siomedig iawn â’r canlyniad, o gofio mai nhw sydd yn cynnal Cwpan y Byd nesaf yn 2018 ac felly wedi gobeithio gwneud ymgais dda ohoni eleni.

Gemau’r 16 olaf

Brasil v Chile (Sadwrn, 5.00yp)

Colombia v Uruguay (Sadwrn, 21.00yh)

Yr Iseldiroedd v Mecsico (Sul, 5.00yp)

Costa Rica v Groeg (Sul, 9.00yh)

Ffrainc v Nigeria (Llun, 5.00yp)

Yr Almaen v Algeria (Llun, 9.00yh)

Ariannin v Swistir (Mawrth, 5.00yp)

Gwlad Belg v UDA (Mawrth, 9.00yh)

Pigion eraill

Mae unrhyw un sydd heb fod yn byw o dan garreg bellach siŵr o fod yn gwybod fod Luis Suarez, hogyn drwg Uruguay, wedi cael gwaharddiad o bedwar mis am frathu.

Ond rhag ofn i chi fethu’r newyddion ddoe, mae dau hogyn drwg arall wedi cael eu hanfon adref o Gwpan y Byd, ar ôl i Kevin Prince-Boateng a Sulley Muntari gael eu hel o garfan Ghana am gamfihafio.

O ystyried fod y ddau ymysg chwaraewyr gorau Ghana, efallai nad yw’n syndod fod hyd yn oed Portiwgal wedi llwyddo i’w curo nhw ddoe.

Tra roedd ei hanner frawd yn cael ei anfon adref gan Ghana, roedd Jerome Boateng yn paratoi i ychwanegu at ei gapiau gyda’r Almaen wrth iddyn nhw herio’r UDA.

Ond wrth i’r BBC ddangos amddiffynwyr yr Almaen cyn y gêm cafodd llawer o wylwyr syndod enfawr, wrth ddysgu fod Boateng wedi llwyddo i ennill 441 o gapiau dros ei wlad ag yntau ond yn 25 oed!


Amddiffyn Almaenaidd profiadol iawn
Yn ôl y sôn cafodd ei gap cyntaf pan yn bedair blwydd oed, sydd digwydd bod pa mor hen mae Mario Gotze yn edrych ar hyn o bryd.

Jocian ydw i wrth gwrs – 41 o gapiau oedd gan Boateng cyn gêm neithiwr (dydw i ddim yn jocian am Gotze, mae ganddo fo wyneb babi go iawn).

Ac yn olaf, mae ‘na ambell gêm ddiddorol iawn yn rownd 16 olaf Cwpan y Byd eleni.

Mae’r ddwy gêm gyntaf yn ddarbis De America sydd yn siŵr o danio’r dorf, a phwy oedd wirioneddol yn disgwyl Groeg neu Costa Rica yn yr wyth olaf?

Ond mae Algeria hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at herio’r Almaen, a hynny er mwyn gwneud yn iawn am gam hanesyddol.

Yn nhwrnament 1982 fe chwaraeodd yr Almaen ac Awstria gêm ddiflas ond cyfleus a orffennodd yn 1-0 i’r Almaenwyr, canlyniad oedd yn golygu fod y ddau dîm drwyddo – ar draul Algeria.

Ac nid yw’r Algeriaid wedi anghofio hynny, yn ôl eu rheolwr Vadid Halilhodzic.

“Dydyn ni heb anghofio hynny, mae pawb yn dal i siarad am Algeria a’r Almaen yn 1982,” meddai. “Mae 32 o flynyddoedd yn amser hir.”