Luis Suárez
Mae ymosodwr Lerpwl ac Wrwgwái Luis Suárez wedi ei wahardd am bedwar mis gan olygu y bydd yn colli naw gêm i Wrwgwái.

Cafodd Suárez ei gyhuddo o frathu amddiffynnwr Yr Eidal Giorgio Chiellini yn ystod gêm yng Nghwpan y Byd yn erbyn Yr Eidal.

Mae Pennaeth Cymdeithas Bêl-droed Wrwgwái wedi gofyn am gyfarfod brys gyda Llywydd FIFA Sepp Blatter i drafod y gwaharddiad.