Mae dau o chwaraewyr Ghana wedi cael eu hanfon adref o Gwpan y Byd ym Mrasil ar drothwy gêm fawr yng Ngrŵp G heno.

Yn ôl Cymdeithas Bêl-Droed Ghana, fe wnaeth Sulley Muntari daro un o swyddogion y Gymdeithas yn ystod cyfarfod, tra bod Kevin Prince-Boateng wedi sarhau’r hyfforddwr Kwesi Appiah.

Roedd y ddau’n arfer chwarae i Portsmouth.

Mae lle i gredu bod ffrae rhwng y chwaraewyr a’r swyddogion tros gyflogau yn ystod y cyfarfod.

Mewn datganiad, dywedodd y Gymdeithas fod y ddau chwaraewr wedi cael eu diarddel ar unwaith ac am gyfnod amhenodol gan yr hyfforddwr.

Ychwanegodd y datganiad fod Prince-Boateng wedi “sarhau’r hyfforddwr Kwesi Appiah yn ddifrifol” ac nad oedd e wedi ymddiheuro.

Bydd Ghana yn herio Portiwgal ym Mrasilia gan wybod fod ganddyn nhw lygedyn o obaith o gyrraedd yr 16 olaf.

Er mwyn i hynny ddigwydd, fe fyddai’n rhaid iddyn nhw guro Portiwgal a gobeithio bod Yr Almaen neu’r Unol Daleithiau’n cipio’r triphwynt pan fyddan nhw’n cwrdd heno.

Byddai safle Ghana yn y tabl wedyn yn cael ei benderfynu ar wahaniaeth goliau.

Ond pe bai’r Almaen a Phortiwgal yn gyfartal, y ddau dîm hynny fyddai’n mynd drwodd i’r rownd nesaf.