Rhys Priestland
Mae disgwyl i chwaraewyr rhyngwladol y Scarlets Rhys Priestland ac Emyr Phillips a blaenasgellwr Yr Alban John Barclay i fod yn holliach ar gyfer y tymor nesaf wedi iddynt dderbyn triniaeth ar ddiwedd y tymor.
Ar ôl derbyn llawdriniaeth i’w ysgwydd mae John Barclay yn ôl yn rhedeg ac yn disgwyl dychwelyd i sesiynau ymarfer ym mis Awst. Cafodd Phillips hefyd lawdriniaeth ar ei ysgwydd ond yn debygol o ddychwelyd i ymarfer yr wythnos nesaf.
Roedd angen llawdriniaeth i ben-glin Priestland ar ôl dioddef anaf yn erbyn y Gleision ar ddiwedd y tymor.
‘‘Mae Rhys yn cryfhau ei ben-glin ar hyn o bryd a byddwn yn ei asesu mewn pythefnos. Ond rydyn ni’n disgwyl iddo fod yn holliach ar gyfer y tymor,’’ meddai Andrew Walker, pennaeth meddygol y Scarlets.
Hefyd bydd canolwr Cymru Scott Williams yn dychwelyd yn ôl i ymarfer llawn tuag at ddiwedd mis Gorffennaf ac yn disgwyl i ddechrau’r tymor.