Mae chwaraewr amryddawn ifanc Morgannwg, Ruaidhri Smith wedi cael ei enwi yng ngharfan Yr Alban i wynebu’r Iseldiroedd mewn cyfres undydd yng Nglasgow.
Mae Smith wedi’i ychwanegu at y garfan yn lle Rob Taylor o Swydd Gaerlŷr ac mae’n un o chwech yn y garfan sy’n chwarae i un o’r siroedd dosbarth cyntaf – y gweddill yw’r capten Kyle Coetzer, Matt Machan, Peter Mommsen, Iain Wardlaw a Josh Davey.
Fe fydd y gyfres yn dechrau ar Orffennaf 1.
Hon fydd cyfres gynta’r hyfforddwr newydd, Grant Bradburn wrth iddo baratoi i arwain y wlad yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf.
Carfan Yr Alban: Kyle Coetzer (capten), Preston Mommsen, Richie Berrington, Freddie Coleman, Matthew Cross, Josh Davey, Alasdair Evans, Majid Haq, Michael Leask, Matt Machan, Calum MacLeod, Safyaan Sharif, Ruaidhri Smith, Iain Wardlaw