Shaqiri a Gokhan Inler yn dathlu (llun: AP/Felipe Dana)
Mae o eisoes yn ennill gwobr am un o enwau mwyaf cŵl y gystadleuaeth yn barod, ond neithiwr fe ychwanegodd Xherdan Shaqiri bluen arall i’w het yng Nghwpan y Byd wrth sgorio hat-tric i’r Swistir.
Roedd eu buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Honduras yn ddigon i sicrhau y byddwn nhw’n dianc o Grŵp E a chyrraedd rownd yr 16 olaf.
A Shaqiri oedd seren y sioe, gan sgorio gôl wefreiddiol o du allan i’r cwrt cosbi ar gyfer ei ergyd agoriadol cyn rhwydo ail cyn yr egwyl.
Roedd yn rhaid i’r Swistir geisio ennill o ddigon o goliau rhag ofn fod Ecuador yn trechu Ffrainc er mwyn gorffen yn ail o’u blaenau nhw ar wahaniaeth goliau.
Ac fe seliwyd buddugoliaeth gyfforddus gyda thrydedd gôl Shaqiri ugain munud o’r diwedd – yr ail hat-tric yng Nghwpan y Byd eleni a’r 50fed yn hanes y gystadleuaeth.
Dau dîm gwastraffus
Fel mae’n digwydd doedd dim rhaid i’r Swistir boeni, ar ôl i Ecuador fethu â churo Ffrainc er mwyn cadw’u gobeithion nhw o aros yn y gystadleuaeth yn fyw.
Er y canlyniad di-sgôr, fodd bynnag, fe gafodd Ecuador digon o gyfleoedd i geisio’i hennill hi, gydag Enner Valencia, Christian Noboa ac Alex Ibarra’n methu â sgorio pan ddaeth eu cyfle.
Ond roedd Ffrainc, oedd eisoes drwyddo ac wedi newid llawer o’u tîm, hefyd yn euog o fethu cyfleoedd euraidd, gyda golwr Ecuador Alexander Dominguez yn arbed llawer ohonynt.
Adref felly i Ecuador, a Ffrainc dal heb golli yn y twrnament wrth iddyn nhw symud ymlaen.
Gadael Nigeria mewn Mess
Os oedd gan Nigeria unrhyw obaith y gallwn nhw syfrdanu pawb a threchu’r Ariannin i orffen ar frig y grŵp, yna fe roddwyd diwedd ar hynny gan ddewin bach cyfarwydd y gwrthwynebwyr.
Oherwydd o fewn tair munud i’r gic gyntaf roedd yr Ariannin ar y blaen, gyda Lionel Messi’n waldio pêl rydd i mewn i’r rhwyd ar ôl i ergyd Angel di Maria daro’r postyn.
I fod yn deg fe darodd Nigeria nôl yn syth, gydag Ahmed Musa’n troi ei ddyn a tharo ergyd wych i gornel y rhwyd dwy funud yn ddiweddarach.
Ond eiliadau cyn yr egwyl roedd Messi wrthi eto, gan gyrlio cic rydd hyfryd dros y wal roddodd ddim siawns i’r golwr.
Sgoriodd Musa eto i Nigeria toc wedi’r egwyl, cyn i Marcos Rojo sicrhau’r fuddugoliaeth pum munud wedyn, ac fe arhosodd y sgôr yn 3-2.
Dzek mêt
Ac mae Nigeria drwyddo i’r rownd nesaf beth bynnag, ar ôl i Iran fethu â churo Bosnia-Herzegovina yn eu gêm olaf nhw.
Edin Dzeko oedd seren y Bosniaid, gan sgorio’r gôl agoriadol cyn creu’r ail i Miralem Pjanic wrth i’w dîm roi eu perfformiad gorau o Gwpan y Byd hyd yn hyn – bechod eu bod nhw allan eisoes.
Cafodd Iran gôl yn ôl – eu cyntaf o’r gystadleuaeth – diolch i Reza Ghoochannejhad ddeg munud cyn y diwedd ond fe seliwyd buddugoliaeth Bosnia can y cefnwr Avdija Vrsajevic funud yn ddiweddarach.
Mae’r ddau dîm nawr yn mynd adref, gyda Bosnia-Herzegovina’n dechrau eu paratoadau ar gyfer ymgyrch Ewro 2016 pan fyddwn nhw ymysg y timau fydd yn herio Cymru.
Gemau heddiw
Portiwgal v Ghana (5.00yp)
UDA v Yr Almaen (5.00yp)
Algeria v Rwsia (9.00yh)
Gwlad Belg v De Corea (9.00yh)
Pigion eraill
Y newyddion arall i ddod o Gwpan y Byd ydi’r benwisg newydd sydd wedi’i ddyfeisio ar gyfer chwaraewyr sydd wedi anafu.
Dyma Cristian Noboa yn, wel, edrych yn rêl Nob wrth fodelu’r rhwyd orennau mae o wedi’i ddefnyddio i ddal ei rwymyn yn ei le – mi fydd rhaid yn frith ar draws yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf dwi’n siŵr!
Dw i ddim yn siŵr pa fath o gyfarwyddiadau oedd rheolwr yr Ariannin Alejandro Sabella’n ei roi i Ezequiel Lavezzi (dyna enw cŵl arall), ond doedd yr asgellwr ddim i’w weld petai’n meddwl llawer ohono.
Nid yn unig oedd ei ben fel petai yn y cymylau wrth iddo gymryd sip o’i ddiod – ond fe benderfynodd fod angen peth ar ei reolwr hefyd:
Ac yn olaf, dim rhyfedd fod Shaqiri ‘di sgorio hat-tric ddoe – jyst drychwch ar y calves yna (crothau coesau yn Gymraeg, i chi gael deall). Pert iawn.