Mae rheolwr Abertawe, Garry Monk yn gobeithio denu’r cyn-chwaraewyr canol-cae Scott Sinclair a Gylfi Sigurdsson yn ôl i’r Liberty y tymor nesaf, yn ôl adroddiadau.

Mae Sigurdsson wedi cael gwybod gan Spurs nad ydyn nhw’n bwriadu ei gadw yn White Hart Lane y tymor nesaf, ond fe allai’r Elyrch orfod talu hyd at £10 miliwn amdano fe.

Mae’n bosib y byddai Sinclair ar gael am bris llawer is nag y gwnaeth Man City ei dalu amdano fe ddwy flynedd yn ôl, ond fe allai ymuno ar fenthyg yn dilyn cyfnod llwyddiannus ar fenthyg gyda West Brom y tymor diwethaf.

Mae’r Elyrch eisoes wedi arwyddo golwr Arsenal, Lukasz Fabianski ac mae disgwyl iddyn nhw arwyddo cyn-ymosodwr Lyon a Ffrainc, Bafetimbi Gomis yn dilyn prawf meddygol llwyddiannus.

Mae Abertawe hefyd yn chwilio am amddiffynnwr, ond does dim lle i gredu bod Ashley Williams ar fin gadael y clwb, er gwaethaf adroddiadau sy’n awgrymu bod nifer o glybiau’r Uwch Gynghrair, gan gynnwys QPR a Sunderland, yn awyddus i’w arwyddo.

Bydd cytundeb Williams yn dod i ben ddiwedd y tymor nesaf ac fe allai Williams arall ddod i’r Liberty.

Mae Jonny Williams wedi plesio gyda’i berfformiadau i Crystal Palace a Chymru ac mae’n cael ei ystyried fel opsiwn i gryfhau’r tîm yng nghanol cae.

Yn y cyfamser, mae disgwyl i’r Elyrch geisio sicrhau cytundebau parhaol i Marvin Emnes a Jonathan de Guzman, sydd wedi treulio cyfnodau ar fenthyg yn Abertawe.

Mae de Guzman yn aelod o garfan Yr Iseldiroedd yng Nghwpan y Byd ar hyn o bryd.